12 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 114 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan dynnu sylw at y prif bwyntiau yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at un
o brif fesuryddion yr adran ‘a wnaethom yr hyn sydd yn bwysig i’r unigolyn?’ a
phwysleisiwyd mai hyn sydd yn gyrru’r gwasanaeth.
Mynegwyd fod rhai
o’r mesurau yn fesurau statudol gan Lywodraeth Cymru megis cyfradd oediad mewn gofal
am resymau gofal cymdeithasol. Ategwyd fod y mesur hwn yn gyrru gweithgaredd
ond ddim yn adlewyrchu ar brofiad y dinesydd. Mynegwyd fod Gweithlu a Recriwtio
yn y maes gofal yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r adran. Ychwanegwyd ar y
cyfan fod yr aelod yn hapus a pherfformiad yr adran.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Diolchwyd
i’r staff gan aelod o’r Cabinet am y gwasanaeth a gafwyd gan yr adran a’i
brofiad ef o hynny oedd ei fod yn wasanaeth clodwiw.
¾
Mynegwyd
nad oes gan yr adran unrhyw graffiau yn dangos eu perfformiad ond bod yna
straeon fel hyn yn adlewyrchu ar ansawdd y gwasanaeth.
¾
Amlygwyd
mai’r gyfrinach fyddai ystyried sut mae modd trosi’r profiadau unigolion yn
fesur i dangos ansawdd y gwasanaeth
Awdur: Morwena Edwards