Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Cabinet (eitem 13)

13 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DDATBYLGU'R ECONOMI pdf eicon PDF 133 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddan gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi eu bod yn nodi’r prif bwyntiau yn yr adroddiad. Mynegwyd fod llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda’r trigolion gyda diweddaru cardiau teithio bws. Ychwanegwyd fod Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi creu darlun calonogol o Lyfrgelloedd Gwynedd.

 

Rhoddwyd diweddariad ar waith Neuadd Dwyfor gan nodi fod tîm defnyddwyr wedi ei sefydlu er mwyn ymgynghori gyda phobl leol. Codwyd pryder am orwariant yn Storiel ond nodwyd fod y gwasanaeth yn adolygu’r trefniadau ar hyn o bryd.

 

Tynnwyd sylw at gynllun ‘busnesau’n cael cymorth i ffynnu’ sydd yn sicrhau dull gweithredu yn y Cyngor sy’n rhoi anghenion busnes yn ganolog ac yn lleihau rhwystrau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at oedi yn gynllun arbedion parcio gan nodi fod rhai adrannau yn credu fod codi incwm yn lleihau’r arbedion. Ychwanegwyd os nad oes codiad mewn incwm fod dod o hyd i ddatrysiad yn gallu bod yn anodd.

 

Awdur: Dilwyn Williams