13 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DDATBYLGU'R ECONOMI PDF 133 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddan gan Cyng. Gareth Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi eu bod yn nodi’r prif bwyntiau yn yr adroddiad. Mynegwyd fod
llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda’r trigolion gyda diweddaru
cardiau teithio bws. Ychwanegwyd fod Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi
creu darlun calonogol o Lyfrgelloedd Gwynedd.
Rhoddwyd
diweddariad ar waith Neuadd Dwyfor gan nodi fod tîm defnyddwyr wedi ei sefydlu
er mwyn ymgynghori gyda phobl leol. Codwyd pryder am orwariant yn Storiel ond
nodwyd fod y gwasanaeth yn adolygu’r trefniadau ar hyn o bryd.
Tynnwyd sylw at
gynllun ‘busnesau’n cael cymorth i ffynnu’ sydd yn sicrhau dull gweithredu yn y
Cyngor sy’n rhoi anghenion busnes yn ganolog ac yn lleihau rhwystrau.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Tynnwyd
sylw at oedi yn gynllun arbedion parcio gan nodi fod rhai adrannau yn credu fod
codi incwm yn lleihau’r arbedion. Ychwanegwyd os nad oes codiad mewn incwm fod
dod o hyd i ddatrysiad yn gallu bod yn anodd.
Awdur: Dilwyn Williams