7 CYNLLUN GWYNEDD 2018-23 - ADNODDAU I'R CYNLLUN 'CYNYDDU BUDD DIGWYDDIADAU MAWRION' PDF 102 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytunwyd i ymrwymo
£50,000 o’r Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor er mwyn galluogi’r adran i wireddu’r
weledigaeth o gefnogi digwyddiadau yn unol â Chynllun Gwynedd 2018-23.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas
PENDERFYNIAD
Cytunwyd i ymrwymo £50,000 o’r Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor er mwyn
galluogi’r adran i wireddu’r weledigaeth o gefnogi digwyddiadau yn unol â
Chynllun Gwynedd 2018-23.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod swyddog penodol yn edrych ar ddigwyddiadau’r sir.
Ychwanegwyd fod rôl benodol er mwyn denu digwyddiadau ac i sicrhau budd gorau i
fusnesau Gwynedd. Mynegwyd er mai cyfraniad cymharol fychan sy’n cael ei gynnig
i drefnwyr digwyddiadau tynnwyd sylw at y manteision a oedd yn cynnwys cyfleoedd
i gymunedau a phobl ifanc a lle canolog i’r Gymraeg a diwylliant Gwynedd.
Amlygwyd rhestr o
uchafbwyntiau yn y maes digwyddiadau yn ystod y flwyddyn diwethaf. Ychwanegwyd
fod trafodaethau yn cael ei cynnal am mewn amrywiol leoliadau ar draws Gwynedd
ac felly nid yw trafodaethau am lleoliad y Faenol yn drafodaeth tu hwnt i’r
arferol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Holwyd sut mae digwyddiadau yn derbyn ffigyrau
niferoedd. Nodwyd drwy drafodaeth a’r trefnwyr ac yna gwerthuso ac addasu.
¾
Trafodwyd
sut mae’r adran yn edrych ar effaith digwyddiadau ar yr iaith. Mynegwyd o ran
yr elfen trefnu fod cyfarfodydd yn cael ei cynnal gyda’r trefnwyr ac fod
cytundeb yn cael ei arwyddo ganddynt. O ran monitro, nodwyd fod y Swyddog
Digwyddiadau yn mynychu rhan helaeth o’r digwyddiadau ac rhoddwyd esiampl o
ddigwyddiad ‘Red Bull Hardline’ ble mae mwy o Gymraeg i’w gweld yno yn
flynyddol.
¾
Tynnwyd
sylw at werth am arian gan amlygu i pob £1 mae’r Cyngor wedi ei fuddsoddi mewn
digwyddiadau mae’n dod a elw o £140.26 i’r sir. Holwyd sut oedd modd mesur hyn.
Nodwyd fod cyfrifiannell wedi ei greu gan Lywodraeth Cymru sydd yn cael ei greu
ar sail tybiaethau sydd eu hunain yn deillio o waith maintoli budd sy’n deillio
o’r fath ddigwyddiadau
Awdur: Roland Evans