Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dafydd Meurig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd
cyfrannu £200,000 o’r Gronfa Drawsffurfio i ariannu 2 swydd llawn amser (Ym
Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7 awr yr wythnos (Yn Nhywyn a Chaernarfon)
i barhau i gynnal Cynllun Gwasanaeth Cefnogi Dementia Go yn y Gymuned hyd
Mawrth 2022.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd cyfrannu £200,000 o’r Gronfa Drawsffurfio i ariannu 2 swydd
llawn amser (Ym Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7 awr yr wythnos (Yn Nhywyn
a Chaernarfon) i barhau i gynnal Cynllun Gwasanaeth Cefnogi Dementia Go yn y
Gymuned hyd Mawrth 2022.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod cynnydd yn y galw am gefnogaeth i rai sy’n dioddef a
dementia. Mynegwyd fod yr arian hwn ar gyfer cyfnod dros dro o ddwy flynedd er
mwyn ariannu cynllun Dementia Go. Pwysleisiwyd yn dilyn y ddwy flynedd y
gobeithir y bydd y gwaith yma yn dod yn waith pob dydd yr adran ond er mwyn
sicrhau hyn fod angen gwneud gwaith ymchwil a chasglu tystiolaeth i fesur
effaith y Cynllun.
Ychwanegodd Rheolwr
Rhaglen Dementia Go fod y cynllun yn un sydd yn cynnal gweithgareddau ar draws
Gwynedd gydag oddeutu 110 o bobl yn rhan o’r gweithgareddau yn wythnosol.
Amlygwyd fod bod yn actif yn amlwg yn rhan ganolog o’r gwaith i sicrhau balans
a chryfder ond fod cefnogaeth hefyd yn rhan allweddol. Mynegwyd fod y
gweithgareddau yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd mewn lleoliad cyfforddus yn eu
cymuned.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Ategwyd
balchder o weld y cynllun yn gweithio i gael adroddiad gan y Gwasanaeth
Dadansoddeg ac Ymchwil er mwyn gwerthusiad llawn. Ychwanegwyd fod budd mawr o’r
cynllun a bod effaith amlwg i ofalwyr ac unigolion.
¾
Pwysleisiwyd
fod cefnogaeth i’r cynllun a bod aelodau yn hynod ffyddiog y bydd tystiolaeth
gadarn yn amlygu ei effaith. Tynnwyd sylw at y meysydd fydd yn gweld effaith yn
y dyfodol a oedd yn cynnwys y Maes Iechyd ynghyd â gwasanaethau gofal. Holwyd
os yw’r Bwrdd Iechyd yn barod i gyfrannu, nodwyd eu bod yn gefnogol o’r
cynllun. Ychwanegwyd drwy gasglu tystiolaeth y bydd modd pwysleisio’r buddiannau
i’r Maes Iechyd.
Awdur: Aled Davies