5 DIWEDDARIAD CYNNYDD PDF 179 KB
Adroddiad gan Jane Richardson – Cadeirydd Grŵp Swyddogion
Gweithredol y Bwrdd Uchelgais.
Penderfyniad:
Nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Jane Richardson - Cadeirydd Grŵp
Swyddogion Gweithredol y Bwrdd Uchelgais.
PENDERFYNWYD
Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi diweddariad ar y cynnydd gan y
Grŵp Swyddogion Gweithredol. Derbyniwyd diweddariad ar apwyntio pedwar
aelod o staff i’r Swyddfa Rhaglen, sydd yn cynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen. Hefyd, nodwyd y bydd gweithdy Llywodraethu yn
cael ei gynnal ar gyfer 14 Chwefror 2020, ac fe dderbyniwyd diweddariad ar
waith Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer o waith wedi ei wneud yn
dilyn y cyfarfod blaenorol. Mynegwyd fod ffocws clir wedi ei amlygu yn ystod y
cyfnod pontio ac amlinellwyd rôl y Bwrdd Uchelgais, Swyddfa Raglen a'r
Grŵp Gweithredol. Nodwyd na fydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Cadeirio’r
Grŵp Gweithredol am y tro a bydd Jane Richardson yn parhau fel Cadeirydd.
Amlygwyd fod Gweithdy Llywodraethu wedi ei drefnu ar 14 Chwefror.
Mynegwyd yn ogystal fod gwaith wedi ei wneud i gryfhau’r berthynas a Thîm
Rhanbarthol Llywodraeth Cymru a thrafodaethau yn cael eu cynnal ar sut y bydd
modd gweithio ar y cyd ar y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ac adolygu’r
Weledigaeth Twf.
Nodwyd mai un o’r blaenoriaethau nesaf fydd i greu strategaeth
gyfathrebu ac i benderfynu beth mae’r Swyddfa Raglen am ei gyflwyno i Ogledd
Cymru. Pwysleisiwyd fod angen naratif i’r Gogledd a sut y bydd y Weledigaeth
Twf yn gweu i mewn i’r naratif.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nodwyd balchder fod cydweithio gwell a Llywodraeth
Cymru. Mynegwyd pwysigrwydd creu fframwaith ar y cyd ac yr un weledigaeth.
·
Trafodwyd y Grŵp Gweithredol gan drafod y
gadeiryddiaeth. Pwysleisiwyd yr angen i’r Cyfarwyddwr Rhaglen fod yn aelod gan
y bydd yn anodd cyflwyno eitemau ac i gadeirio.
·
Pwysleisiwyd yr angen i arwyddo'r Penawdau’r
Telerau erbyn mis Hydref. Ychwanegwyd fod angen trafodaeth mewn gweithdy am ba
mor hyblyg yw’r ddwy Lywodraeth o ran cynlluniau yn y wedd gyntaf a’r ail.
Pwysleisiwyd gan mai prosiectau yw gwraidd yr holl raglen y bydd angen bod yn
hyblyg. Mynegwyd yr angen i’r Llywodraeth fod yn gwbl eglur o bryd mae’r
prosiectau yn symud i fod yn rhaglen.