6 CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER (RHAGFYR 2019) PDF 523 KB
Adroddiad gan Dafydd L.Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod
Lletya.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd
yr adolygiad trydydd chwarter o gyllideb y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2019/20, a
cytunwyd i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2019/20 i’r gronfa wrth gefn fel y
bydd ar gael yn y dyfodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards – Pennaeth Cyllid Statudol.
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd yr adolygiad trydydd chwarter o gyllideb y Bwrdd Uchelgais ar
gyfer 2019/20, a cytunwyd i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2019/20 i’r gronfa
wrth gefn fel y bydd ar gael yn y dyfodol.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Adroddwyd ar y gwahanol benawdau cyllideb roedd yn gorwario / tanwario,
a nodwyd fod amcangyfrif y bydd tanwariant net o £117,424 ar ddiwedd 2019/20, fydd
yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa wrth gefn a sefydlwyd ar ddiwedd
2018/19.
Er mwyn gweithredu yn effeithiol, mae angen i’r Cydbwyllgor (y Bwrdd
Uchelgais) fod yn ymwybodol o’i sefyllfa gwariant hyd yma a’r rhagamcanion
gwariant eleni yn erbyn ei gyllideb flynyddol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd y gyllideb ar gyfer 2020/21 yn
cael ei thrafod yn y cyfarfod nesaf. Ychwanegwyd nad oes newid mawr wedi bod
dros y chwarter diwethaf. Tywyswyd drwy’r daenlen gan bwysleisio fod tanwariant
oherwydd bod oediad wedi bod yn penodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Amlygwyd fod
incwm ychwanegol wedi ei ychwanegu ar gyfer grant ESF os fydd y cais yn cael ei
gymeradwyo.
Mynegwyd y bydd sefyllfa derfynol yn cael ei drafod ym mis Mehefin, a
derbyniwyd y bydd unrhyw danwariant yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa wrth gefn
sydd wedi’i chlustnodi,
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Amlygwyd fod arian wrth gefn ar gyfer unrhyw gostau
pellach ac i leihau’r baich a’r gofyn am arian gan bartneriaid.
·
Holwyd faint o arian sydd yn cael ei drosglwyddo am
eleni a faint o arian sydd wrth gefn, nodwyd fod £117,424 yn cael ei
drosglwyddo ar gyfer eleni a bydd hyn yn dod a’r cyfanswm i £453,000.