Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/01/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 6)

6 CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER (RHAGFYR 2019) pdf eicon PDF 523 KB

Adroddiad gan Dafydd L.Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod

Lletya.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adolygiad trydydd chwarter o gyllideb y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2019/20, a cytunwyd i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2019/20 i’r gronfa wrth gefn fel y bydd ar gael yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards – Pennaeth Cyllid Statudol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adolygiad trydydd chwarter o gyllideb y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2019/20, a cytunwyd i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2019/20 i’r gronfa wrth gefn fel y bydd ar gael yn y dyfodol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Adroddwyd ar y gwahanol benawdau cyllideb roedd yn gorwario / tanwario, a nodwyd fod amcangyfrif y bydd tanwariant net o £117,424 ar ddiwedd 2019/20, fydd yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa wrth gefn a sefydlwyd ar ddiwedd 2018/19. 

 

Er mwyn gweithredu yn effeithiol, mae angen i’r Cydbwyllgor (y Bwrdd Uchelgais) fod yn ymwybodol o’i sefyllfa gwariant hyd yma a’r rhagamcanion gwariant eleni yn erbyn ei gyllideb flynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd y gyllideb ar gyfer 2020/21 yn cael ei thrafod yn y cyfarfod nesaf. Ychwanegwyd nad oes newid mawr wedi bod dros y chwarter diwethaf. Tywyswyd drwy’r daenlen gan bwysleisio fod tanwariant oherwydd bod oediad wedi bod yn penodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Amlygwyd fod incwm ychwanegol wedi ei ychwanegu ar gyfer grant ESF os fydd y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Mynegwyd y bydd sefyllfa derfynol yn cael ei drafod ym mis Mehefin, a derbyniwyd y bydd unrhyw danwariant yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa wrth gefn sydd wedi’i chlustnodi,

 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Amlygwyd fod arian wrth gefn ar gyfer unrhyw gostau pellach ac i leihau’r baich a’r gofyn am arian gan bartneriaid.

·         Holwyd faint o arian sydd yn cael ei drosglwyddo am eleni a faint o arian sydd wrth gefn, nodwyd fod £117,424 yn cael ei drosglwyddo ar gyfer eleni a bydd hyn yn dod a’r cyfanswm i £453,000.