Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/01/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 7)

7 CAIS EFL pdf eicon PDF 176 KB

Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Strwythur Staffio ar gyfer y Swyddfa Rhaglen, a dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad gyda Phrif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i addasu’r strwythur fel yr angen o fewn y gyllideb.

 

Cymeradwyo’r dyddiadau cychwyn ar gyfer staff o fewn y strwythur staffio, a penodi i’r Swyddfa Rhaglen cyn y Cytundeb Terfynol, lle mae’r swyddi yn fforddiadwy o fewn y gyllideb graidd a chyllideb ESF (fel y’i rhestrwyd yn rhan 4.2.5 o’r adroddiad).

 

Penderfynwyd, yn amodol ar y materion sydd wedi ei amlygu yn yr adroddiad, awdurdodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen i greu y swyddi ac ymgymryd â’r broses benodi yn unol â threfniadau a pholisïau’r Corff Lletya. 

 

Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad a Prif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer cyfnod Gorffennaf 2018 at Mehefin 2023.  Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cyfrannu 50% o arian cyfatebol, yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb craidd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen

 

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo’r Strwythur Staffio ar gyfer y Swyddfa Rhaglen, a dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad gyda Phrif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i addasu’r strwythur fel yr angen o fewn y gyllideb.

 

Cymeradwyo’r dyddiadau cychwyn ar gyfer staff o fewn y strwythur staffio, a phenodi i’r Swyddfa Rhaglen cyn y Cytundeb Terfynol, lle mae’r swyddi yn fforddiadwy o fewn y gyllideb graidd a chyllideb ESF (fel y’i rhestrwyd yn rhan 4.2.5 o’r adroddiad).

 

Penderfynwyd, yn amodol ar y materion sydd wedi ei amlygu yn yr adroddiad, awdurdodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen i greu'r swyddi ac ymgymryd â’r broses benodi yn unol â threfniadau a pholisïau’r Corff Lletya. 

 

Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad a Prif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer cyfnod Gorffennaf 2018 at Fehefin 2023.  Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cyfrannu 50% o arian cyfatebol, yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd.

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Bydd y grant ESF yn rhoi arian i’r rhanbarth i ddatblygu a gweithredu’r Weledigaeth Twf drwy sefydlu Swyddfa Rhaglen. Bydd y Swyddfa Rhaglen yn cychwyn gyda thîm craidd o swyddogion wedi’i ariannu’n rhannol drwy’r grant ESF.

 

O ran y gyllideb, mynegwyd ei bod yn fwy cost effeithiol i benodi swyddogion yn hytrach na’ penodi ymgynghorwyr ar gytundebau llawrydd. Pwysleisiwyd na fydd penodiadau yn cael ei gwneud hyd nes y bydd cadarnhad o’r arian wedi ei dderbyn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn ddiweddariad ar y cais grant. Amlygwyd y swyddi oedd yn rhan o’r cais a'r dyddiadau ar gyfer penodi a chychwyn y swyddi.

 

O ran y gyllideb, mynegwyd ei bod yn fwy cost effeithiol i benodi swyddogion yn hytrach na’ penodi ymgynghorwyr staff ar gytundebau llawrydd. Pwysleisiwyd na fydd penodiadau yn cael ei gwneud hyd nes y bydd cadarnhad o’r arian wedi ei dderbyn.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Holwyd pryd y bydd cadarnhad oes yn derbyn yr arian. Mynegwyd fod arwyddion yn ymddangos fel y bydd y cais yn cael ei dderbyn a diolchwyd i Gyngor Conwy am y gwaith o baratoi’r  cais.

·         Trafodwyd y gwahaniaeth rhwng rheolwr rhaglen a rheolwr prosiect. Pwysleisiwyd fod y swyddi yma yn parhau i ddatblygu ac i gael ei addasu er mwyn sicrhau nad oes dyblygu yn benodol wrth edrych ar rôl swyddogion y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol sydd eisoes yn weithredol yn y rhanbarth.

·         O ran derbyn yr arian, mynegwyd unwaith yn cael y cadarnhad fod yr arian ar gael y  bydd modd gwneud cais am ôl-daliad ac yna yn hawlio'r arian yn chwarterol.