Adroddiad
gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Strwythur
Staffio ar gyfer y Swyddfa Rhaglen, a dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen
mewn ymgynghoriad gyda Phrif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid
Statudol i addasu’r strwythur fel yr angen o fewn y gyllideb.
Cymeradwyo’r dyddiadau
cychwyn ar gyfer staff o fewn y strwythur staffio, a penodi i’r Swyddfa Rhaglen
cyn y Cytundeb Terfynol, lle mae’r swyddi yn fforddiadwy o fewn y gyllideb
graidd a chyllideb ESF (fel y’i rhestrwyd yn rhan 4.2.5 o’r adroddiad).
Penderfynwyd, yn amodol ar
y materion sydd wedi ei amlygu yn yr adroddiad, awdurdodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen
i greu y swyddi ac ymgymryd â’r broses benodi yn unol â threfniadau a
pholisïau’r Corff Lletya.
Penderfynwyd dirprwyo’r
hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad a Prif Weithredwr y Corff
Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig
ar 50% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer cyfnod Gorffennaf 2018 at Mehefin
2023. Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd
Uchelgais yn cyfrannu 50% o arian cyfatebol, yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu
prosiectau a chyllideb craidd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo’r Strwythur Staffio ar gyfer y Swyddfa Rhaglen, a dirprwyo’r
hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad gyda Phrif Weithredwr y Corff
Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i addasu’r strwythur fel yr angen o fewn y
gyllideb.
Cymeradwyo’r dyddiadau cychwyn ar gyfer staff o fewn y strwythur
staffio, a phenodi i’r Swyddfa Rhaglen cyn y Cytundeb Terfynol, lle mae’r
swyddi yn fforddiadwy o fewn y gyllideb graidd a chyllideb ESF (fel y’i
rhestrwyd yn rhan 4.2.5 o’r adroddiad).
Penderfynwyd, yn amodol ar y materion sydd wedi ei amlygu yn yr
adroddiad, awdurdodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen i greu'r swyddi ac ymgymryd â’r
broses benodi yn unol â threfniadau a pholisïau’r Corff Lletya.
Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad
a Prif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i dderbyn cynnig
grant gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer cyfnod
Gorffennaf 2018 at Fehefin 2023.
Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cyfrannu 50% o arian cyfatebol,
yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Bydd y grant ESF yn rhoi arian i’r rhanbarth i ddatblygu a gweithredu’r
Weledigaeth Twf drwy sefydlu Swyddfa Rhaglen. Bydd y Swyddfa Rhaglen yn cychwyn
gyda thîm craidd o swyddogion wedi’i ariannu’n rhannol drwy’r grant ESF.
O ran y gyllideb, mynegwyd ei bod yn fwy cost effeithiol i benodi
swyddogion yn hytrach na’ penodi ymgynghorwyr ar gytundebau llawrydd. Pwysleisiwyd
na fydd penodiadau yn cael ei gwneud hyd nes y bydd cadarnhad o’r arian wedi ei
dderbyn.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn ddiweddariad ar y cais grant.
Amlygwyd y swyddi oedd yn rhan o’r cais a'r dyddiadau ar gyfer penodi a chychwyn
y swyddi.
O ran y gyllideb, mynegwyd ei bod yn fwy cost effeithiol i benodi
swyddogion yn hytrach na’ penodi ymgynghorwyr staff ar gytundebau llawrydd.
Pwysleisiwyd na fydd penodiadau yn cael ei gwneud hyd nes y bydd cadarnhad o’r
arian wedi ei dderbyn.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Holwyd pryd y bydd cadarnhad oes yn derbyn yr
arian. Mynegwyd fod arwyddion yn ymddangos fel y bydd y cais yn cael ei dderbyn
a diolchwyd i Gyngor Conwy am y gwaith o baratoi’r cais.
·
Trafodwyd y gwahaniaeth rhwng rheolwr rhaglen a
rheolwr prosiect. Pwysleisiwyd fod y swyddi yma yn parhau i ddatblygu ac i gael
ei addasu er mwyn sicrhau nad oes dyblygu yn benodol wrth edrych ar rôl
swyddogion y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol sydd eisoes yn weithredol yn y
rhanbarth.
·
O ran derbyn yr arian, mynegwyd unwaith yn cael y
cadarnhad fod yr arian ar gael y bydd
modd gwneud cais am ôl-daliad ac yna yn hawlio'r arian yn chwarterol.