7 EFFAITH COVID-19 AR GYLLIDEB 2020/21 PDF 184 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Nodi’r
bwlch posibl yng nghyllideb 2020/21 a chefnogi ymdrechion yr Arweinydd a
swyddogion i sicrhau opsiynau ariannu addas gan Lywodraeth Cymru.
Oherwydd
y colledion ariannol ym mlwyddyn gyntaf (2019/20) Byw’n Iach yn sgil Covid-19,
a’r rhagdybiaeth y bydd colledion pellach yn parhau yn 2020/21 am yr un rheswm,
fod y Cabinet yn cadarnhau
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Nodi’r bwlch posibl yng
nghyllideb 2020/21 a chefnogi ymdrechion yr Arweinydd a swyddogion i sicrhau
opsiynau ariannu addas gan Lywodraeth Cymru.
Oherwydd y colledion ariannol ym
mlwyddyn gyntaf (2019/20) Byw’n Iach yn sgil Covid-19, a’r rhagdybiaeth y bydd
colledion pellach yn parhau yn 2020/21 am yr un rheswm, fod y Cabinet yn
cadarnhau
1. Ei fod yn fodlon darparu y gefnogaeth
ariannol angenrheidiol i gynnal Gwasanaethau
Cwmni’n Byw’n Iach yn y man cyntaf hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol
2020/21.
2. Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid, mewn
ymgynghoriad a'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a
Chymuned, ac yn unol â’r ddarpariaeth yn y Cytundeb gyda Chwmni Byw’n Iach (Atodlen 4), i ddarparu llythyr o sicrwydd i’r cwmni a
chytuno ar amodau a chynnwys y gefnogaeth.
3. Fod y Cabinet yn derbyn adroddiad penodol ar y trefniadau fel rhan o
adroddiadau adolygu cyllidebau y Cyngor.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y sefyllfa yn un fregus gydag incwm wedi lleihau a
gwariant yn uwch yn ystod y cyfnod argyfwng. Ychwanegwyd fod hyn i’w gweld ym
mhob awdurdod lleol.
Nododd y Pennaeth
Cyllid fod Llywodraeth Prydain wedi cynnig ariannu rhan o'r golled mewn incwm,
ynghyd â chostau ychwanegol, i awdurdodau lleol yn Lloegr. Mynegwyd fod gwahanol adrannau o Lywodraeth
Cymru yn trafod gyda’i gilydd a gobeithir y bydd cyhoeddiad yn fuan. Ategwyd
fod colled incwm y Cyngor am 3 mis oddeutu £5m, ac os fydd sefyllfa’r argyfwng
yn parhau mi fydd y golled incwm oddeutu £10m dros 6 mis. Pwysleisiwyd fod y golled yn ddibynnol ar
effaith y cyfyngiadau yn ystod y cyfnod.
Mynegwyd fod
trafodaethau yn parhau gyda Llywodraeth Cymru, a’i fod yn anodd i’r Cyngor
gynllunio yn ariannol hyd nes bydd gwybodaeth gan y Llywodraeth faint o grant
disgwylir ei dderbyn, a pa mor hir y bydd yr argyfwng yn parhau.
Trafodwyd sefyllfa ariannol
cwmni Byw’n Iach yn sgil cyfyngiadau’r argyfwng Covid-19, yn
2019/20 a 2020/21, a phenderfynwyd fod y
Cyngor yn cynnig cefnogaeth iddynt yn sgil effaith yr argyfwng.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd fod angen galw ar Lywodraeth Cymru i gamu ymlaen ac i gefnogi’r
Cyngor i warchod ei thrigolion.
¾ Pwysleisiwyd fod y cyfnod wedi dangos gallu’r Cyngor i ymateb a
gweithredu ar fyrder i edrych ar ôl ei thrigolion, ynghyd ag amlygu pwysigrwydd
gwasanaethau darparu.
Awdur: Dafydd Edwards a Ffion Madog Evans