Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/05/2020 - Y Cabinet (eitem 7)

7 EFFAITH COVID-19 AR GYLLIDEB 2020/21 pdf eicon PDF 184 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

 

Nodi’r bwlch posibl yng nghyllideb 2020/21 a chefnogi ymdrechion yr Arweinydd a swyddogion i sicrhau opsiynau ariannu addas gan Lywodraeth Cymru.

 

Oherwydd y colledion ariannol ym mlwyddyn gyntaf (2019/20) Byw’n Iach yn sgil Covid-19, a’r rhagdybiaeth y bydd colledion pellach yn parhau yn 2020/21 am yr un rheswm, fod y Cabinet yn cadarnhau

 

  1. Ei fod yn fodlon darparu y gefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal Gwasanaethau  Cwmni’n Byw’n Iach yn y man cyntaf hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21.
  2. Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a Chymuned, ac yn unol â’r ddarpariaeth yn y Cytundeb gyda Chwmni  Byw’n Iach (Atodlen 4),  i ddarparu llythyr o sicrwydd i’r cwmni a chytuno ar amodau a chynnwys y gefnogaeth.
  3. Fod y Cabinet yn derbyn adroddiad  penodol ar y trefniadau fel rhan o adroddiadau adolygu cyllidebau y Cyngor

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi’r bwlch posibl yng nghyllideb 2020/21 a chefnogi ymdrechion yr Arweinydd a swyddogion i sicrhau opsiynau ariannu addas gan Lywodraeth Cymru.

 

Oherwydd y colledion ariannol ym mlwyddyn gyntaf (2019/20) Byw’n Iach yn sgil Covid-19, a’r rhagdybiaeth y bydd colledion pellach yn parhau yn 2020/21 am yr un rheswm, fod y Cabinet yn cadarnhau

 

1.   Ei fod yn fodlon darparu y gefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal Gwasanaethau  Cwmni’n Byw’n Iach yn y man cyntaf hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21.

2.   Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a Chymuned, ac yn unol â’r ddarpariaeth yn y Cytundeb gyda Chwmni  Byw’n Iach (Atodlen 4),  i ddarparu llythyr o sicrwydd i’r cwmni a chytuno ar amodau a chynnwys y gefnogaeth.

3.   Fod y Cabinet yn derbyn adroddiad  penodol ar y trefniadau fel rhan o adroddiadau adolygu cyllidebau y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y sefyllfa yn un fregus gydag incwm wedi lleihau a gwariant yn uwch yn ystod y cyfnod argyfwng. Ychwanegwyd fod hyn i’w gweld ym mhob awdurdod lleol.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid fod Llywodraeth Prydain wedi cynnig ariannu rhan o'r golled mewn incwm, ynghyd â chostau ychwanegol, i awdurdodau lleol yn Lloegr.  Mynegwyd fod gwahanol adrannau o Lywodraeth Cymru yn trafod gyda’i gilydd a gobeithir y bydd cyhoeddiad yn fuan. Ategwyd fod colled incwm y Cyngor am 3 mis oddeutu £5m, ac os fydd sefyllfa’r argyfwng yn parhau mi fydd y golled incwm oddeutu £10m dros 6 mis.  Pwysleisiwyd fod y golled yn ddibynnol ar effaith y cyfyngiadau yn ystod y cyfnod.

 

Mynegwyd fod trafodaethau yn parhau gyda Llywodraeth Cymru, a’i fod yn anodd i’r Cyngor gynllunio yn ariannol hyd nes bydd gwybodaeth gan y Llywodraeth faint o grant disgwylir ei dderbyn, a pa mor hir y bydd yr argyfwng yn parhau.

 

Trafodwyd sefyllfa ariannol cwmni Byw’n Iach yn sgil cyfyngiadau’r argyfwng Covid-19, yn 2019/20 a 2020/21, a phenderfynwyd fod y Cyngor yn cynnig cefnogaeth iddynt yn sgil effaith yr argyfwng.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd fod angen galw ar Lywodraeth Cymru i gamu ymlaen ac i gefnogi’r Cyngor i warchod ei thrigolion.

¾  Pwysleisiwyd fod y cyfnod wedi dangos gallu’r Cyngor i ymateb a gweithredu ar fyrder i edrych ar ôl ei thrigolion, ynghyd ag amlygu pwysigrwydd gwasanaethau darparu.

 

Awdur: Dafydd Edwards a Ffion Madog Evans