8 DATGANIAD TECHNOLEG RHANBARTHOL AR AGREGAU: DRAFFT AIL ADOLYGIAD PDF 110 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
yr Ail Adolygiad o’r Datganiad Technoleg Rhanbarthol ac i awdurdodi’r Pennaeth
Adran Cynorthwyol i gyflwyno cadarnhad o’r gymeradwyaeth y Cabinet i Lywodraeth
Cymru.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Griffith
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd yr Ail Adolygiad
o’r Datganiad Technoleg Ranbarthol ac i awdurdodi’r Pennaeth Adran Cynorthwyol
i gyflwyno cadarnhad o’r gymeradwyaeth y Cabinet i Lywodraeth Cymru.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r
penderfyniad. Ychwanegodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran ei bod yn ofyn i
baratoi ac adolygu'r datganiadau er mwyn darparu strategaeth ar gyfer cyflenwad
digonol i agregau adeiladau ar gyfer y dyfodol. Nodwyd fod y datganiad yn
argymell faint o agregau sydd angen i bob awdurdod gynllunio ar ei gyfer yn y
Cynlluniau Datblygu Lleol. Pwysleisiwyd wrth edrych ar Wynedd o ran y datganiad
ac ar sail fod cyflenwad wrth gefn o ran agregau a bod yr adran yn ymwybodol o ardaloedd eraill o fewn y sir ble
mae agregau yn bosib nad oes angen i’r Cyngor wneud dim byd ar frys. Mynegwyd
yn y tymor hir y bydd angen ymgorffori'r argymhelliad sydd i’w gweld yn y
datganiad wrth adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd yn ystod 2021.
Mynegwyd fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei
gynnal a bod yr ymatebion i’w gweld yn atodiad 2 yr adroddiad.
Awdur: Dafydd Wyn Williams