MATERION BRYS
Penderfyniad:
Datganwyd parodrwydd y Cabinet i ariannu ymyrraeth yn unol â’r adroddiad a
chymorth ymarferol er mwyn cynnal darpariaeth y cartref gofal dros y cyfnod
heriol presennol er gwrachod lles y preswylwyr.
Nodwyd fod y penderfyniad uchod yn ddarostyngedig i gyrraedd cytundeb
priodol gyda Chymdeithas Dai a Bwrdd
Iechyd Betsi Cadwaladr ar amodau'r ymyrraeth a chyfraniadau.
Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant
mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Cyllid a
Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno telerau.
Bod y gwaith o baratoi achos busnes yn unol â phenderfyniad 18fed
Chwefror 2020 yn parhau ac yn cael ei
gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr
Cofnod:
Bu i’r Cadeirydd
nodi ei fod wedi cytuno mater brys i’w drafod. Roedd yn fodlon fod y cyd destun
yn golygu fod angen ystyried y mater yn y cyfarfod yma. Bu i’r aelodau
bleidleisio ar y penderfyniad i gau y allan y wasg a’r cyhoedd gan fod yr eitem
yn eithriedig.
EITEM FRYS - SEFYLLFA
CARTREF
Cyflwynwyd
yr ardoddiad gan Cyng. Dafydd Meurig yn adrodd ar yr amgylchiadau oedd yn
bodoli a’r opsiynnau ar gyfer ymateb. Rhoddwyd ystyriaeth i rol budd-ddeiliaid
a rol posib y Cyngor yn y sefyllfa.
PENDERFYNIAD
Datganwyd
parodrwydd y Cabinet i ariannu ymyrraeth
yn unol â’r adroddiad a chymorth ymarferol er mwyn cynnal darpariaeth y cartref
gofal dros y cyfnod heriol presennol
er gwrachod lles y preswylwyr.
Nodwyd fod y
penderfyniad uchod yn ddarostyngedig i gyrraedd cytundeb priodol gyda Chymdeithas Dai a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
ar amodau'r ymyrraeth a chyfraniadau.
Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth
Oedolion, Iechyd a Llesiant mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno
telerau.
Bod y gwaith o baratoi achos busnes yn unol â phenderfyniad 18fed
Chwefror 2020 yn parhau ac yn cael ei
gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr
TRAFODAETH
Trafodwyd yr
adroddiad.