Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/05/2020 - Y Cabinet (eitem 3)

MATERION BRYS

Penderfyniad:

Datganwyd parodrwydd y Cabinet  i ariannu ymyrraeth yn unol â’r adroddiad a chymorth ymarferol er mwyn cynnal darpariaeth y cartref gofal dros y cyfnod heriol  presennol er  gwrachod lles y preswylwyr.

 

Nodwyd fod y penderfyniad uchod yn ddarostyngedig i gyrraedd cytundeb priodol  gyda Chymdeithas Dai a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar amodau'r ymyrraeth a chyfraniadau.

Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Cyllid a  Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno telerau.

 

Bod y gwaith o baratoi achos busnes yn unol â phenderfyniad 18fed Chwefror 2020  yn parhau ac yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr

 

COFNODION:

Bu i’r Cadeirydd nodi ei fod wedi cytuno mater brys i’w drafod. Roedd yn fodlon fod y cyd destun yn golygu fod angen ystyried y mater yn y cyfarfod yma. Bu i’r aelodau bleidleisio ar y penderfyniad i gau y allan y wasg a’r cyhoedd gan fod yr eitem yn eithriedig.

 

EITEM FRYS - SEFYLLFA CARTREF

 

Cyflwynwyd yr ardoddiad gan Cyng. Dafydd Meurig yn adrodd ar yr amgylchiadau oedd yn bodoli a’r opsiynnau ar gyfer ymateb. Rhoddwyd ystyriaeth i rol budd-ddeiliaid a rol posib y Cyngor yn y sefyllfa.

 

PENDERFYNIAD

 

Datganwyd parodrwydd y Cabinet  i ariannu ymyrraeth yn unol â’r adroddiad a chymorth ymarferol er mwyn cynnal darpariaeth y cartref gofal dros y cyfnod heriol  presennol er  gwrachod lles y preswylwyr.

 

Nodwyd fod y penderfyniad uchod yn ddarostyngedig i gyrraedd cytundeb priodol  gyda Chymdeithas Dai a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar amodau'r ymyrraeth a chyfraniadau.

Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Cyllid a  Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno telerau.

 

Bod y gwaith o baratoi achos busnes yn unol â phenderfyniad 18fed Chwefror 2020  yn parhau ac yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.