5 PENAWDAU'R TELERAU PDF 430 KB
Adroddiad
gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi fod Penawdau’r Telerau wedi’u cwblhau.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams – Cyfarwyddwr Rhaglen.
PENDERFYNWYD
Nodi fod Penawdau’r Telerau wedi’u cwblhau.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Drafftiwyd Cytundeb Penawdau’r Telerau gan y ddwy Lywodraeth yng nghyd-destun y Ddogfen Gynnig ac yn unol â’r cynnig gan y Bwrdd Uchelgais o fewn y Cynllun Gweithredu. Bu i’r Bwrdd Uchelgais drafod a chymeradwyo’r ddogfen drafft yn ystod cyfarfod y Bwrdd ar 26 Gorffennaf a 6 Medi 2019. Ar gyhoeddiad y ddogfen derfynol cyflwynwyd y ddogfen yn ffurfiol i’r Bwrdd i’w nodi yn gyhoeddus.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno fersiwn wedi’i lofnodi o’r cytundeb Penawdau’r Telerau a baratowyd yng nghyd-destun y Ddogfen Gynnig a’r Cynllun Gweithredu. Nodwyd fod angen penderfyniad i nodi fod y Penawdau’r Telerau wedi’i chwblhau.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
· Pwysleisiwyd fod llofnodi’r Penawdau’r Telerau yn arwyddocaol gan ei fod yn dangos ymrwymiad y ddwy Lywodraeth yn glir i waith y Bwrdd Uchelgais. Ategwyd fod y penawdau yn ogystal yn dangos partneriaeth dda gyda’r ddwy Lywodraeth a mynegwyd fod y Bwrdd yn edrych ymlaen at lofnodi’r ddogfen derfynol cyn diwedd y flwyddyn.