6 LLYWODRAETHU RHAGLENNI PDF 456 KB
Adroddiad
gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd i:
· Gadarnhau'r egwyddor o fabwysiadu dull rheoli rhaglenni a phrosiectau i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cynnwys sefydlu Byrddau Rhaglen i oruchwylio'r cyflawni gweithredol
· Cymeradwyo strwythur cyflawni arfaethedig fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 1 a Chylch Gorchwyl arfaethedig y Bwrdd Rhaglen fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 2.
· Cymeradwyo penodi Uwch Swyddogion Cyfrifol a Dirprwy Uwch Swyddogion Cyfrifol fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 3 a phenodi Aelod Arweiniol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i eistedd ar bob Bwrdd Rhaglen.
· Nodi y bydd yr is-grwpiau presennol ar gyfer Ynni a Digidol yn cael eu disodli gan y Byrddau Rhaglen unwaith y byddent wedi'u sefydlu.
· Dirprwyo'r hawl i'r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Grŵp Cefnogaeth Weithredol i weithredu trefniadau llywodraethu'r rhaglen a gwneud yr holl benodiadau eraill i'r Byrddau Rhaglen.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans – Rheolwr Gweithrediadau.
PENDERFYNWYD
Penderfynwyd i:
¾ Gadarnhau'r egwyddor o fabwysiadu dull rheoli rhaglenni a phrosiectau i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cynnwys sefydlu Byrddau Rhaglen i oruchwylio'r cyflawni gweithredol.
¾ Cymeradwyo strwythur cyflawni arfaethedig fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 1 a Chylch Gorchwyl arfaethedig y Bwrdd Rhaglen fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 2.
¾ Cymeradwyo penodi Uwch Swyddogion Cyfrifol a Dirprwy Uwch Swyddogion Cyfrifol fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 3 a phenodi Aelod Arweiniol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i eistedd ar bob Bwrdd Rhaglen.
¾ Nodi y bydd yr is-grwpiau presennol ar gyfer Ynni a Digidol yn cael eu disodli gan y Byrddau Rhaglen unwaith y byddent wedi'u sefydlu.
¾ Dirprwyo'r hawl i'r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Grŵp Cefnogaeth Weithredol i weithredu trefniadau llywodraethu'r rhaglen a gwneud yr holl benodiadau eraill i'r Byrddau Rhaglen.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Roedd angen i’r Bwrdd Uchelgais fabwysiadu model llywodraethu’r rhaglen yn seiliedig ar arfer gorau i sicrhau fod Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cael ei gyflawni’r llwyddiannus.
O ystyried graddfa a chymhlethdod y bartneriaeth a phortffolio’r gwaith sydd i’w gyflawni, mynegwyd angen i sefydlu model clir ar gyfer llywodraethu’r portffolio, y rhaglenni a’r prosiectau.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Pwysleisiwyd pwysigrwydd llywodraethu ar gyfer prosiectau nid ar gyfer trefniadau ond ar gyfer y weledigaeth. Mynegwyd fod y model yn seiliedig ar ddull arfer gorau ar gyfer rheoli prosiectau ac yn adeiladau ar y strwythur sydd i’w gweld yn barod.
Amlygwyd mai’r prif newid oedd bod byrddau rhaglen yn cael ei sefydlu a fydd yn cael gwared â’r is-grwpiau. Ni fydd y rhain yn is-fyrddau ffurfiol o’r Bwrdd Uchelgais ond yn fyrddau rhaglen fydd yn goruchwylio gwaith ac yn gynnig argymhellion nid gwneud penderfyniadau. Tynnwyd sylw at y strwythur gan amlygu pa Aelodau a fydd yn Aelod Arweiniol ar gyfer bob rhaglen, a fydd yn linc rhwng y byrddau a’r Bwrdd Uchelgais.
Mynegwyd fod y Bwrdd Uchelgais wedi ei amlygu fel Grŵp i gydlynu Adfer Economi yn dilyn Covid-19. Nodwyd mai nod ac amcan y grŵp cydlynu adfer Economi fydd i hwyluso’r cyfnod yn dilyn Covid.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
· Holwyd y sut mae’r strwythur Grŵp Adfer a’r Bwrdd Uchelgais yn gweithio gyda’i gilydd ac os bydd effaith ar brosiectau. Mynegwyd fod 4 thema wedi ei amlygu ar gyfer y grwpiau adfer ar draws y rhanbarth ac un o’r rhain yw’r economi ac y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hanfon at yr aelodau.
· Ychwanegwyd y bydd y Bwrdd drwy’r Grŵp Adfer yn gosod amcanion ac arwain ar y gwaith ond ddim yn ymateb yn uniongyrchol. Pwysleisiwyd y bydd angen gweithio mewn partneriaeth gyfer Llywodraeth.