Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 6)

6 LLYWODRAETHU RHAGLENNI pdf eicon PDF 456 KB

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

·         Gadarnhau'r egwyddor o fabwysiadu dull rheoli rhaglenni a phrosiectau i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cynnwys sefydlu Byrddau Rhaglen i oruchwylio'r cyflawni gweithredol

·         Cymeradwyo strwythur cyflawni arfaethedig fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 1 a Chylch Gorchwyl arfaethedig y Bwrdd Rhaglen fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 2.

·         Cymeradwyo penodi Uwch Swyddogion Cyfrifol a Dirprwy Uwch Swyddogion Cyfrifol fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 3 a phenodi Aelod Arweiniol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i eistedd ar bob Bwrdd Rhaglen.

·         Nodi y bydd yr is-grwpiau presennol ar gyfer Ynni a Digidol yn cael eu disodli gan y Byrddau Rhaglen unwaith y byddent wedi'u sefydlu.

·         Dirprwyo'r hawl i'r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Grŵp Cefnogaeth Weithredol i weithredu trefniadau llywodraethu'r rhaglen a gwneud yr holl benodiadau eraill i'r Byrddau Rhaglen.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans – Rheolwr Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd i:

¾     Gadarnhau'r egwyddor o fabwysiadu dull rheoli rhaglenni a phrosiectau i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cynnwys sefydlu Byrddau Rhaglen i oruchwylio'r cyflawni gweithredol.

¾     Cymeradwyo strwythur cyflawni arfaethedig fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 1 a Chylch Gorchwyl arfaethedig y Bwrdd Rhaglen fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 2.

¾     Cymeradwyo penodi Uwch Swyddogion Cyfrifol a Dirprwy Uwch Swyddogion Cyfrifol fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 3 a phenodi Aelod Arweiniol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i eistedd ar bob Bwrdd Rhaglen.

¾     Nodi y bydd yr is-grwpiau presennol ar gyfer Ynni a Digidol yn cael eu disodli gan y Byrddau Rhaglen unwaith y byddent wedi'u sefydlu.

¾     Dirprwyo'r hawl i'r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Grŵp Cefnogaeth Weithredol i weithredu trefniadau llywodraethu'r rhaglen a gwneud yr holl benodiadau eraill i'r Byrddau Rhaglen.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Roedd angen i’r Bwrdd Uchelgais fabwysiadu model llywodraethu’r rhaglen yn seiliedig ar arfer gorau  i sicrhau fod Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cael ei gyflawni’r llwyddiannus.

 

O ystyried graddfa a chymhlethdod y bartneriaeth a phortffolio’r gwaith sydd i’w gyflawni, mynegwyd angen i sefydlu model clir ar gyfer llywodraethu’r portffolio, y rhaglenni a’r prosiectau.

           

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Pwysleisiwyd pwysigrwydd llywodraethu ar gyfer prosiectau nid ar gyfer trefniadau ond ar gyfer y weledigaeth. Mynegwyd fod y model yn seiliedig ar ddull arfer gorau ar gyfer rheoli prosiectau ac yn adeiladau ar y strwythur sydd i’w gweld yn barod.

 

Amlygwyd mai’r prif newid oedd bod byrddau rhaglen yn cael ei sefydlu a fydd yn cael gwared â’r is-grwpiau. Ni fydd y rhain yn is-fyrddau ffurfiol o’r Bwrdd Uchelgais ond yn fyrddau rhaglen fydd yn goruchwylio gwaith ac yn gynnig argymhellion nid gwneud penderfyniadau. Tynnwyd sylw at y strwythur gan amlygu pa Aelodau a fydd yn Aelod Arweiniol ar gyfer bob rhaglen, a fydd yn linc rhwng y byrddau a’r Bwrdd Uchelgais.

 

Mynegwyd fod y Bwrdd Uchelgais wedi ei amlygu fel Grŵp i gydlynu Adfer Economi yn dilyn Covid-19. Nodwyd mai nod ac amcan y grŵp cydlynu adfer Economi fydd i hwyluso’r cyfnod yn dilyn Covid.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Holwyd y sut mae’r strwythur Grŵp Adfer a’r Bwrdd Uchelgais yn gweithio gyda’i gilydd ac os bydd effaith ar brosiectau. Mynegwyd fod 4 thema wedi ei amlygu ar gyfer y grwpiau adfer ar draws y rhanbarth ac un o’r rhain yw’r economi ac y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hanfon at yr aelodau.

·         Ychwanegwyd y bydd y Bwrdd drwy’r Grŵp Adfer yn gosod amcanion ac arwain ar y gwaith ond ddim yn ymateb yn uniongyrchol. Pwysleisiwyd y bydd angen gweithio mewn partneriaeth gyfer Llywodraeth.