Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 7)

7 CYTUNDEB LLYWODRAETHU 2 pdf eicon PDF 540 KB

Adroddiad gan Iwan G Evans, Swyddog Monitro – Awdurdod Lletyol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr adroddiad ynghyd a’r Cynllun Prosiect Cytundeb Llywodraeth 2 diwygiedig yn ddarostyngedig i dderbyn diweddariad yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans  - Swyddog Monitro y Awdudrdod Lletyol.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr adroddiad ynghyd a’r Cynllun Prosiect Cytundeb Llywodraeth 2 diwygiedig yn ddarostyngedig i dderbyn diweddariad yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae cytundeb y bartneriaeth danategol a’r fframwaith llywodraeth yn allweddol i gytuno ar Gytundeb Llywodraeth 2 (GA2) cynhwysfawr. Mae’r GA2 yn ddogfen sy’n cyfundrefnu perthynas ac ymrwymiad y partïon yn bennaf, ynghyd â’u cyfrifoldebau a’u hatebolrwydd ynghyd â sefydlu’r fframwaith llywodraethu cefnogol. Roedd angen i’r Bwrdd graffu a chytuno rhaglen ar gyfer cwblhau y gwaith yma i gyd fynd a’r amcan o gwblhau y Cytundeb Terfynol yn ystod Rhagfyr 2020..

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddioad hwn wedi ei raglennu  ar gyfer mis Mawrth er mwyn dilyn amserlen y cynllun gwaith er mwyn arwyddo’r cytundeb terfynol ym mis Rhagfyr ond fod Covid wedi ei gadw yn ôl hyn y cyfarfod hwn. Pwysleiswyd fod cytundeb Llyowdraethu 2 yn allweddol ar gyfer Cytundeb Terfynol.

 

Nodwyd fod gweithdy Llywodraethu wedi ei gynnal i adnabod a deall y materion sydd angen cytuno arnynt neu eu datrys rhwng y partneriaid. Amlygwyd y materion allweddol. Amlygwyd fod llithriad yn yr amserlen sydd yn heriol ac y bydd angen adroddiad pellach yn y cyfarfod nesaf. 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Nodwyd yr angen i sicrhau fod y drefn craffu mor syml â phosib ac yn disgyn i mewn i drefniadau sydd i’w gweld yn yr awdurdodau yn barod. Ychwanegwyd fod amserlen craffu mynd i’w gwneud yn anodd cyrraedd y targed o gwblhau'r cytundeb Twf Terfynol erbyn Rhagfyr 2020.

·         Nodwyd y bydd adroddiad pellach cynhwysfawr yn cael ei gyflwyno i’r aelodau yn cyfarfod nesaf.