Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 9)

9 ADRODDIAD ALLDRO 2019/20 pdf eicon PDF 518 KB

Adroddiad gan Dafydd L.Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod

Lletya.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20.

 

Cymeradwywyd ffurflen flynyddol swyddogol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20 (amodol ar Archwiliad Allanol), oedd wedi'i gwblhau a'i ardystio'n briodol gan Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-bwyllgor yn unol â'r amserlen statudol, sef 15 Mehefin 2020.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards – Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol.

           

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20.

           

Cymeradwywyd ffurflen flynyddol swyddogol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20 (amodol ar Archwiliad Allanol), oedd wedi'i gwblhau a'i ardystio'n briodol gan Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-bwyllgor yn unol â'r amserlen statudol, sef 15 Mehefin 2020.

 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen i’r Cyd-bwyllgor fod yn ymwybodol o’i sefyllfa ariannol ar gyfer 2019/20 a chydymffurfio a’r gofynion statudol yn nhermau cwblhau’r adroddiad blynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn nodi'r cyfrifon terfynol ac y bydd angen cymeradwyaeth i’r ffurflen flynyddol swyddogol y Cyd bwyllgor. Ychwanegwyd y bydd y cyfrifon a’r adroddiad yn destun archwiliad gan Deloitte  a pe byddai angen unrhyw newidiadau, caiff fersiwn diwygiedig ei gyflwyno yn y cydbwyllgor nesaf.

 

Tynnwyd sylw at y tanwariant gan nodi’r rhesymau dros y tanwariant a oedd yn cynnwys gostyngiad i wasanaethau cefnogol y Corff Atebol. Ychwanegwyd nad oedd arian Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd wedi ei dderbyn tan fis Mai 2020 ac felly nid yw’n ymddangos yn y cyfrifon 2019/20. Felly, ychwanegwyd caiff ei ail hawlio’n ôl-weithredol yn ystod 2020/21 a’i ôl-ddyddio i 1 Gorffennaf 2018. Amlygwyd fod tanwariant o £161,316 a'i fod wedi ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn a’i glustnodi i roi gweddill o £497,529 a fydd ar gael i ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y materion a ganlyn:-

·         Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith.

·         Mynegwyd fod llythyr cadarnhad am  arian Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd wedi ei dderbyn a bydd hyn yn galluogi’r Tîm Swyddfa Rhaglen i ddechau paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf i ddod.