9 ADRODDIAD ALLDRO 2019/20 PDF 518 KB
Adroddiad gan Dafydd L.Edwards,
Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod
Lletya.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodwyd a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw y
Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20.
Cymeradwywyd ffurflen flynyddol swyddogol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20 (amodol ar Archwiliad Allanol), oedd wedi'i gwblhau a'i ardystio'n briodol gan Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-bwyllgor yn unol â'r amserlen statudol, sef 15 Mehefin 2020.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards – Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol.
PENDERFYNIAD
Nodwyd a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20.
Cymeradwywyd ffurflen flynyddol swyddogol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20 (amodol ar Archwiliad Allanol), oedd wedi'i gwblhau a'i ardystio'n briodol gan Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-bwyllgor yn unol â'r amserlen statudol, sef 15 Mehefin 2020.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Mae angen i’r Cyd-bwyllgor fod yn ymwybodol o’i sefyllfa ariannol ar gyfer 2019/20 a chydymffurfio a’r gofynion statudol yn nhermau cwblhau’r adroddiad blynyddol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn nodi'r cyfrifon terfynol ac y bydd angen cymeradwyaeth i’r ffurflen flynyddol swyddogol y Cyd bwyllgor. Ychwanegwyd y bydd y cyfrifon a’r adroddiad yn destun archwiliad gan Deloitte a pe byddai angen unrhyw newidiadau, caiff fersiwn diwygiedig ei gyflwyno yn y cydbwyllgor nesaf.
Tynnwyd sylw at y tanwariant gan nodi’r rhesymau dros y tanwariant a oedd yn cynnwys gostyngiad i wasanaethau cefnogol y Corff Atebol. Ychwanegwyd nad oedd arian Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd wedi ei dderbyn tan fis Mai 2020 ac felly nid yw’n ymddangos yn y cyfrifon 2019/20. Felly, ychwanegwyd caiff ei ail hawlio’n ôl-weithredol yn ystod 2020/21 a’i ôl-ddyddio i 1 Gorffennaf 2018. Amlygwyd fod tanwariant o £161,316 a'i fod wedi ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn a’i glustnodi i roi gweddill o £497,529 a fydd ar gael i ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth codwyd y materion a ganlyn:-
· Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith.
· Mynegwyd fod llythyr cadarnhad am arian Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd wedi ei dderbyn a bydd hyn yn galluogi’r Tîm Swyddfa Rhaglen i ddechau paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf i ddod.