Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 10)

10 CYLLIDEB 2020/21 pdf eicon PDF 507 KB

Adroddiad gan Dafydd L.Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod

Lletya.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cyllideb 2020/21 gydag Arian Grant ESF (Atodiad 1b) a rhoddwyd yr  hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd a’r Cadeirydd, i ymrwymo hyd at £100,000 ychwanegol o’r gronfa wrth gefn yn ystod y flwyddyn, ar y pennawd Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau pe bai angen hynny, er mwyn cynnal a gwireddu amserlen y rhaglen waith ar gyfer y Cynllun Twf terfynol

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards – Pennaeth Cyllid yr Awdudod Lletyol.

 

PENDERFYIAD

 

Cymeradwywyd Cyllideb 2020/21 gydag Arian Grant ESF (Atodiad 1b) a rhoddwyd yr  hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd a’r Cadeirydd, i ymrwymo hyd at £100,000 ychwanegol o’r gronfa wrth gefn yn ystod y flwyddyn, ar y pennawd Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau pe bai angen hynny, er mwyn cynnal a gwireddu amserlen y rhaglen waith ar gyfer y Cytundeb  terfynol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen  i’r Bwrdd Uchelgais osod y gyllideb arfaethedig fesul pennawd gwariant a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn. Drwy dderbyn cymeradwyaeth y Bwrdd, mae modd gweithredu'n effeithiol o fewn y gyllideb sydd ar gael

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nod fod yr eitem hon wedi cael ei gytuno dros e-bost yn dilyn gohirio’r cyfarfod blaenorol o ganlyniad i argyfwng yr haint Covid-19 er mwyn i’r Bwrdd Uchelgais gael gweithredu dros y ddau fis diwethaf. Ychwanegwyd pan ysgrifennwyd yr adroddiad nad oedd cadarnhad ffurfiol wedi ei dderbyn ar gyfer y grant ESF ac felly fod angen i’r aelodau ganolbwyntio ar senario 2 yn y gyllideb.

 

Amlygwyd y prif newidiadau a fydd rhwng cyllideb 2019/20 a 2020/21 gan y bydd cynnydd yn y costau staffio a gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer cynllunio, datblygu a chefnogi prosiectau. Ychwanegwyd y bydd Incwm Grant y Cais Twf yn cael ei dderbyn yn ystod y flwyddyn ond os bydd yn cael ei dderbyn yn ystod y chwarter olaf, ategwyd y byddant yn ymdrin â hynny'r bryd hynny.

 

Tynnwyd sylw ar yr angen i wneud trosglwyddiadau unwaith ac am byth i’w hariannu o’r gronfa wrth gefn i ariannu gwawriant dan y penawdau canlynol “Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus” a “Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau”. Trafodwyd y Gyllideb gan nodi fod y gyllideb yn defnyddio £272,470 i ariannu gwariant unwaith ac am byth a fydd yn gadael gweddill o £358,000 yn y gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi i ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y materion a ganlyn:-

·         Diolchwyd i’r tîm cyllid am eu gwaith a nodwyd fod angen ymrwymo £100,000 ychwanegol i’r pennawd Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau i sicrhau fod cynlluniau yn cael eu cwblhau.