ADOLYGIAD GWAELODLIN PROSIECTAU
I ystyried yr adroddiad (copi ar wahân i’r Aelodau yn unig).
Bydd y wasg a’r cyhoeddi wedi eu
cau allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14, Atodiad
12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol
cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion
ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi
gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r cyrff a’r Cynghroau Byddai
hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau .
Penderfyniad:
1. Nodi cynnwys yr adroddiad adolygiad
gwaelodlin a'r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod.
2. Nodi y bydd y Cynllun Terfynol gyda
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru yn
seiliedig ar Achosion Busnes y Rhaglen.
3. Cytuno i brosiect Datgarboneiddio Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei gyflawni fel rhan o'r Rhaglen Ynni Carbon Isel ac na fydd achos busnes Rhaglen Trafnidiaeth penodol yn cael ei ddatblygu fel rhan o gytundeb y Cynllun Terfynol.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Roedd y Swyddfa Rhaglen wedi cynnal adolygiad gwaelodlin o’r 14 prosiect a chwe rhaglen sy’n ffurfio rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru. Yn dilyn yr adolygiad roedd angen diweddaru’r Bwrdd Uchelgais ar sefyllfa pob rhaglen a’r broses i gyflawni’r cynllun terfynol.
TRAFODAETH
Trafodwyd yr adoddiad.