BWRDD CYFLAWNI BUSNES
Penodi Cadeirydd i’r Bwrdd Cyflawni Busnes (ceisiadau a dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig).
Bydd y wasg a’r cyhoeddi wedi eu cau allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth
bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O
ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig.
Penderfyniad:
Oherwydd y newid mewn cyd-destyn gohirio symud ymlaen a’r broses penodi Cadeirydd i’r Bwrdd Cyflawni
Busnes er mwyn rhoi cyfle i’r Bwrdd Uchelgais ystyried oedd angen adolygu rôl y
Bwrdd Cyflawni Busnes.
Fod adroddiad pellach i’w gyflwyno yn dilyn ymgynhoriad a’r sector breifat a’r Bwrdd Cyflawni Busnes.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
Oherwydd y newid mewn
cyd-destyn gohirio symud ymlaen a’r broses penodi Cadeirydd i’r Bwrdd Cyflawni
Busnes er mwyn rhoi cyfle i’r Bwrdd Uchelgais ystyried oedd angen adolygu rôl y
Bwrdd Cyflawni Busnes.
Fod adroddiad pellach
i’w gyflwyno yn dilyn ymgynhoriad a’r sector breifat a’r Bwrdd Cyflawni Busnes.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
O ystyried bod chwe
mis wedi mynd heibio ers i’r rhestr fer o ymgeiswyr gael ei chreu, Covid-19
wedi newid y cyd-destun economaidd rhanbarthol yn sylweddol ynghyd a newidiadau
safbwynt o ran mewnbwn y 2 Lywodraeth
i’r penodiad, roedd angen i’r Bwrdd
Uchelgais adlewyrchu ar y sefyllfa ac ystyried sut i symud ymlaen.
TRAFODAETH
Trafodwyd yr
adorddiad.