8 MODELAU MASNACHOL PDF 380 KB
Adroddiad
gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.
Penderfyniad:
Rhoddwyd sylwadau ar y papur gan nodi y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan y Swyddfa Raglen, y Grŵp Cefnogaeth Weithredol a Swyddogion Cyllid ar sut gellir defnyddio modelau masnachol i ddyrannu arian ar gyfer rhaglenni a phrosiectau, gan nodi y bydd adroddiad pellach ar y mater yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans – Rheolwr Gweithrediadau.
PENDEFYNIAD
Rhoddwyd sylwadau ar y papur gan nodi y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan y Swyddfa Raglen, y Grŵp Cefnogaeth Weithredol a Swyddogion Cyllid ar sut gellir defnyddio modelau masnachol i ddyrannu arian ar gyfer rhaglenni a phrosiectau, gan nodi y bydd adroddiad pellach ar y mater yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Fel rhan o’r gwaith datblygu achosion busnes y rhaglen, mae angen i’r Bwrdd Uchelgais ddatblygu y modelau ariannu ar gyfer y Rhaglenni a Phrosiectau. Roedd angen tynnu sylw at y math o fodelau masnachol ac ariannu posib a’r ystyriaethau fydd yn berthnasol all hefyd gyflwyno cyfle ailgylchu arian yn ôl i’r Cynllun Twf ar gyfer buddsoddiad pellach yn y dyfodol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r angen i fwrw ymlaen a’r gwaith ar fodelau masnachol ac ariannu fel rhan o’r pecyn o waith sydd ei angen ar gyfer sicrhau'r Cynllun Terfynol gyda’r Llywodraethau. Amlygwyd tri model posib a oedd yn grant, benthyciad neu fuddsoddiad neu gyfuniad o’r tri.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
· Mynegwyd fod y syniadau am fodelau yn agored i hyblygrwydd ac na fydd angen i bob prosiect i weithio'r un ffordd.
· Nodwyd fod angen edrych ar hyn i sicrhau arian ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau, ac y bydd adroddiad pellach i ddilyn.
· Pwysleisiwyd mai edrych ar ffordd o ddefnyddio’r arian sydd gan y Bwrdd yw’r modelau rhain ac nid chwilio am fwy o fuddsoddiad.