Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/07/2020 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 7)

7 CAIS RHIF C19/1123/40/LL Warws Hufenfa De Arfon, Y Ffor, Pwllheli pdf eicon PDF 219 KB

Newid defnydd rhan o adeilad i ffurfio modurdy a safle MOT

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read

 

Dolen i'r dogfennau perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu.

 

Amodau

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol gyda’r cynlluniau.

3.         Cyfyngu defnydd o’r uned i ddosbarth defnydd B2.

Cofnod:

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod tad yr ymgeisydd yn Aelod Etholedig.

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd  i newid defnydd rhan o adeilad i ffurfio modurdy a safle MOT.  Eglurwyd bod y bwriad yn cynnwys gosod offer perthnasol i redeg y modurdy y tu mewn i’r adeilad ac nad oedd bwriad i wneud unrhyw addasiadau allanol. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Y Ffôr ac wedi ei ddynodi fel safle cyflogaeth i’w warchod yn Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Ategwyd bod y safle yn ffurfio rhan o ystâd ddiwydiannol bresennol ble ceir amrywiol ddiwydiannau ar hyn o bryd, gyda rhai tai annedd yng nghyffiniau’r ystâd ddiwydiannol.

 

Amlygwyd bod y bwriad ar gyfer newid defnydd rhan o’r adeilad i fod yn fodurdy atgyweirio ceir a chanolfan MOT sydd yn ddosbarth defnydd B2. Ni ystyriwyd y byddai newid defnydd rhan o’r adeilad i fodurdy yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r gymdogaeth leol o gofio fod y safle eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer defnydd cyflogaeth / diwydiant.  Ystyriwyd fod y defnydd arfaethedig yn dderbyniol ac na fyddai yn amharu ar fwynderau, cymeriad neu edrychiad y safle na'r ardal o'i gwmpas a'i fod yn cyd-fynd gyda nodweddion y polisïau perthnasol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad.

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Croesau cais sydd yn cynnig cyflogaeth

·         Croesau cais sydd yn gwneud y defnydd gorau o adeilad o fewn ystâd ddiwydiannol

·         Defnydd da o hen adeilad

·         Derbyn yr angen i arall gyfeirio yn yr hinsawdd sydd ohoni

·         Er yn croesawu y cais, pwysig peidio diystyru anghenion y ffatri laeth i’r dyfodol

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol gyda’r cynlluniau.

3.         Cyfyngu defnydd o’r uned i ddosbarth defnydd B2.