5 CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2020 PDF 104 KB
I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd y wybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
gan y Pennaeth Cyllid yn darparu
manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod
y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2020. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun
archwiliad a bod yr archwiliad yn cael
ei weithredu gan gwmni Deloitte. Yn dilyn penderfyniad
gan Archwilio Cymru bod cyfrifon yn agored i
archwiliad cyhoeddus hyd ddechrau Medi, bydd y cyfrifon terfynol yn cael
eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio
a Llywodraethu ar y 14eg o Fedi 2020.
Adroddwyd bod gwerth
y Gronfa i lawr £143m ar y 31ain o Fawrth a hynny oherwydd goblygiadau pandemig covid 19. Nodwyd bod cwymp sylweddol yng ngwerth
y farchnad yn cael ei adlewyrchu
ddiwedd Mawrth ond bellach y gwerthoedd
wedi codi ac yn parhau yn
sefydlog.
Cyfeiriwyd at Nodyn
12, 13 ac 14 lle nodi’r gwybodaeth ehangach ar gostau buddsoddi
oherwydd ymglymiad Cronfa Gwynedd a threfniant pwlio buddsoddiadau cyfunol Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Mewn ymateb i gwestiynnau ynglŷn â chostau Partneriaeth Pensiynau Cymru (PPC) a’r Awdurdod Lletya
- nodyn 13 (£70k), a oes arbediad yn y gostyngiad
ffioedd o gymharu â chostau Cronfa Cyngor Gwynedd, a sut mae modd
sicrhau gwerth am arian, nodwyd bod y sefyllfa yn un anodd iawn i
brofi ac mai’r dychweliadau sydd yn bwysig yn
hytrach na swm y ffioedd. Ystyriwyd bod, bod yn rhan o’r PPC yn
dychwelyd manteision maint sydd wedi
gostwng ffioedd a bod mwy o wytnwch o fod yn rhan
o gronfa fwy. Ategwyd nad
oedd y swm wedi ei gynnwys
ar gyfer 2018/2019, a hynny mewn camgymeriad.
Mewn ymateb
i sylw ynglŷn
â chwymp sylweddol mewn difidendau ecwiti (Nodyn 15) nodwyd bod yr holl
ddifidendau yn cael ei ail fuddsoddi
yn ôl yn
awtomatig i’w cronfeydd perthnasol ac ni chant eu dosbarthu
fel incwm buddsoddi. Bydd gwerth y gronfa a’r newid yng
ngwerth y farchnad ar y cronfeydd hyn yn adlewyrchu
gwerthfawrogiad / dibrisiant
cyfalaf ynghyd ag incwm buddsoddi
wedi’i ail-fuddsoddi.
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth