Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/07/2020 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 5)

5 CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 104 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2020. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad a bod yr archwiliad yn cael ei weithredu gan gwmni Deloitte. Yn dilyn penderfyniad gan Archwilio Cymru bod cyfrifon yn agored i archwiliad cyhoeddus hyd ddechrau Medi, bydd y cyfrifon terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar y 14eg o Fedi 2020.

 

Adroddwyd bod gwerth y Gronfa i lawr £143m ar y 31ain o Fawrth a hynny oherwydd goblygiadau pandemig covid 19. Nodwyd bod cwymp sylweddol yng ngwerth y farchnad yn cael ei adlewyrchu ddiwedd Mawrth ond bellach y gwerthoedd wedi codi ac yn parhau yn sefydlog.

 

Cyfeiriwyd at Nodyn 12, 13 ac 14 lle nodi’r gwybodaeth ehangach ar gostau buddsoddi oherwydd ymglymiad Cronfa Gwynedd a threfniant pwlio buddsoddiadau cyfunol Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiynnau ynglŷn â chostau Partneriaeth Pensiynau Cymru (PPC) a’r Awdurdod Lletya - nodyn 13 (£70k), a oes arbediad yn y gostyngiad ffioedd o gymharu â chostau Cronfa Cyngor Gwynedd, a sut mae modd sicrhau gwerth am arian, nodwyd bod y sefyllfa yn un anodd iawn i brofi ac mai’r dychweliadau sydd yn bwysig yn hytrach na swm y ffioedd. Ystyriwyd bod, bod yn rhan o’r PPC yn dychwelyd manteision maint sydd wedi gostwng ffioedd a bod mwy o wytnwch o fod yn rhan o gronfa fwy. Ategwyd nad oedd y swm wedi ei gynnwys ar gyfer 2018/2019, a hynny mewn camgymeriad.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chwymp sylweddol mewn difidendau ecwiti (Nodyn 15) nodwyd bod yr holl ddifidendau yn cael ei ail fuddsoddi yn ôl yn awtomatig i’w cronfeydd perthnasol ac ni chant eu dosbarthu fel incwm buddsoddi. Bydd gwerth y gronfa a’r newid yng ngwerth y farchnad ar y cronfeydd hyn yn adlewyrchu gwerthfawrogiad / dibrisiant cyfalaf ynghyd ag incwm buddsoddi wedi’i ail-fuddsoddi.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth