6 DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI PDF 177 KB
I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
er gwybodaeth gan y Rheolwr Buddsoddi.
Adroddwyd bod y datganiad yn cael ei
adolygu bob 3 mlynedd yn dilyn
y prisiant a’i fod wedi ei
drafod gyda’r Panel Buddsoddi ym mis
Mai 2020
Tynnwyd sylw
yn benodol at ddyraniad y Gronfa sydd yn adlewyrchu
trosglwyddiad o ecwiti byd-eang i gronfa
Credyd Aml Asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - sydd erbyn hyn
yn ffurfio rhan sylweddol o fuddsoddiadau Cronfa Gwynedd.
Tynnwyd sylw
at awgrym a wnaed gan Aelodau’r Bwrdd
Pensiwn (20/07/20) nad oedd y datganiad yn amlygu’r
risgiau / gwersi a ddysgwyd o effaith pandemig covid 19 a digwyddiadau diweddar yn Tsiena. Awgrymwyd
yn y cyfarfod hwnnw y dylid ychwanegu
brawddeg i baragraff Rheolwyr (tud 57) i adlewyrchu
bod yr ymateb wedi bod yn bositif.
Cynigiwyd brawddeg a luniwyd gyda Paul Potter (Hymans
Robertson) i gyfleu bod y Rheolwyr wedi bod yn rhagweithiol a phositif yn ystod
y pandemig covid 19.
Er yn derbyn y rhesymeg, ystyriwyd mai dyma
gwaith dyddiol unrhyw Reolwr ac yn aml iawn
mae’n rhy hwyr i newid
ar ôl sioc
annisgwyl - y gamp yw rhagweld unrhyw newidiadau. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid nad oedd
y datganiad yn ceisio disgrifio’r hyn y mae’r Rheolwyr
Asedau eisoes yn ei wneud,
ac nad yw’n bwriadu newid eu
‘briff’. Ategwyd bod Rheolwyr yn gyffredinol, wedi ymateb i’r
newid a bod heriau gan y Bwrdd Pensiwn
yn hybu tryloywder
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi