Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/07/2020 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 6)

6 DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI pdf eicon PDF 177 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad er gwybodaeth gan y Rheolwr Buddsoddi. Adroddwyd bod y datganiad yn cael ei adolygu bob 3 mlynedd yn dilyn y prisiant a’i fod wedi ei drafod gyda’r Panel Buddsoddi ym mis Mai 2020

 

Tynnwyd sylw yn benodol at ddyraniad y Gronfa sydd yn adlewyrchu trosglwyddiad o ecwiti byd-eang i gronfa Credyd Aml Asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - sydd erbyn hyn yn ffurfio rhan sylweddol o fuddsoddiadau Cronfa Gwynedd.

 

Tynnwyd sylw at awgrym a wnaed gan Aelodau’r Bwrdd Pensiwn (20/07/20) nad oedd y datganiad yn amlygu’r risgiau / gwersi a ddysgwyd o effaith pandemig covid 19 a digwyddiadau diweddar yn Tsiena. Awgrymwyd yn y cyfarfod hwnnw y dylid ychwanegu brawddeg i baragraff Rheolwyr (tud 57) i adlewyrchu bod yr ymateb wedi bod yn bositif. Cynigiwyd brawddeg a luniwyd gyda Paul Potter (Hymans Robertson) i gyfleu bod y Rheolwyr wedi bod yn rhagweithiol a phositif yn ystod y pandemig covid 19.

 

Er yn derbyn y rhesymeg, ystyriwyd mai dyma gwaith dyddiol unrhyw Reolwr ac yn aml iawn mae’n rhy hwyr i newid ar ôl sioc annisgwyl - y gamp yw rhagweld unrhyw newidiadau. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid nad oedd y datganiad yn ceisio disgrifio’r hyn y mae’r Rheolwyr Asedau eisoes yn ei wneud, ac nad yw’n bwriadu newid eubriff’.    Ategwyd bod Rheolwyr yn gyffredinol, wedi ymateb i’r newid a bod heriau gan y Bwrdd Pensiwn yn hybu tryloywder

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi