7 DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 322 KB
I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi
Penderfyniad:
Derbyniwyd y wybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi
ers sefydlu’r Bartneriaeth yn 2017, bod y Bartneriaeth yn mynd o nerth i
nerth gyda swyddogion yn cyfarfod
yn aml. Yn
ystod cyfnod pandemig covid 19,
nodwyd bod swyddogion
wedi bod yn cyfarfod pob pythefnos
ar gyfrwng Teams gyda chyfarfod llawn wedi ei
raglennu ar gyfer 24ain o Orffennaf 2020.
Tynnwyd sylw
at berfformiad y Gronfa, ac
er gwaethaf y pandemig ymddengys bod y farchnad wedi adfer
yn dda iawn.
Cyfeiriwyd at berfformiad Pzena oedd wedi
cyfrannu at danberfformiad Cronfa Twf Byd
Eang hyd at 31ain Mawrth 2020 ond sydd erbyn hyn
yn gyfrifol am y cynnydd yn y gronfa
oherwydd eu dulliau buddsoddi.
Cyfeiriwyd at y trosglwyddiad incwm sefydlog oedd i’w
drosglwyddo diwedd Ebrill ond sydd
erbyn hyn i’w drosglwyddo ddiwedd mis Gorffennaf
2020. Yng nghyd-destun Marchnadoedd Datblygol, nodwyd bod y gwaith wedi bod yn ddistaw
dros y pandemig ond yn faes
blaenoriaeth ar gyfer y 6 mis nesaf
gyda strwythur Rheolwyr Buddsoddi i’w benderfynu i’r gronfa newydd
yma. Adroddwydd, ym maes Marchandoedd Preifat, bod grŵp wedi ei sefydlu i
edrych ar opsiynau posib o gyfuno asedau i’r
categori yma. Ategwyd bod Russell Investments yn
arwain ar y gwaith o ddadansoddi’r hyn sydd ar
gael gyda’r
portffolio cyfredol a datblygu a rheoli cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru i’r
dyfodol. Nodwyd bod angen trafodaethau unigol gyda pob
Cronfa i geisio ffordd ymlaen
ym maes
‘eiddo’. Er yn fodlon gyda’r
portffolio presennol, amlygwyd bod cyfle i fuddsoddi yn
ehangach gydag eiddo ecwiti byd
eang. Gyda dyraniad posib o 10% mewn eiddo, nodwyd
mai 9% sydd yn cael ei
ddefnyddio ar hyn o bryd gydag
awgrym i gynyddu i’r 10% llawn.
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:
• Rhagwelir sefyllfa eiddo byd eang yn
gwaethygu o effeithiau covid 19 gyda llai
o alw am eiddo busnes. Er hynny,
rheswm da i symud ymlaen gan
ddefnyddio arian
sydd yn weddill,
ond i fod
yn bwyllog o ran ‘gwerthu’
• Bod angen cymryd camau
gofalus – pandemig covid 19 wedi cael
effaith ar y ac
felly angen ystyried y mathau o fuddsoddiadau yn ofalus cyn
trosglwyddo.
Mewn ymateb
i’w sylwadau, nodwyd bod yr argyfwng
wedi prysuro tuedd o’r hyn
oedd angen ei weithredu. Ategwyd
bod 80% o Gronfa Gwynedd eisoes wedi ei
drosglwyddo i Gronfa PPC. Nid oedd bwriad rhuthro
i wneud trosglwyddiadau
pellach, ond bod cyfleoedd yn codi
a bod modd manteisio ar hynny, er
engraifft, edrych efallai ar y posibilrwydd
o fuddsoddi yn isadeiledd Cymru.
Derbyniwyd y wybodaeth