Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/07/2020 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 7)

7 DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 322 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi ers sefydlu’r Bartneriaeth yn 2017, bod y Bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth gyda swyddogion yn cyfarfod yn aml. Yn ystod cyfnod pandemig covid 19, nodwyd bod swyddogion wedi bod yn cyfarfod pob pythefnos ar gyfrwng Teams gyda chyfarfod llawn wedi ei raglennu ar gyfer 24ain o Orffennaf 2020.

 

Tynnwyd sylw at berfformiad y Gronfa, ac er gwaethaf y pandemig ymddengys bod y farchnad wedi adfer yn dda iawn. Cyfeiriwyd at berfformiad Pzena oedd wedi cyfrannu at danberfformiad Cronfa Twf Byd Eang hyd at 31ain Mawrth 2020 ond sydd erbyn hyn yn gyfrifol am y cynnydd yn y gronfa oherwydd eu dulliau buddsoddi.

 

Cyfeiriwyd at y trosglwyddiad incwm sefydlog oedd i’w drosglwyddo diwedd Ebrill ond sydd erbyn hyn i’w drosglwyddo ddiwedd mis Gorffennaf 2020. Yng nghyd-destun Marchnadoedd Datblygol, nodwyd bod y gwaith wedi bod yn ddistaw dros y pandemig ond yn faes blaenoriaeth ar gyfer y 6 mis nesaf gyda strwythur Rheolwyr Buddsoddi i’w benderfynu i’r gronfa newydd yma. Adroddwydd, ym maes Marchandoedd Preifat, bod grŵp wedi ei sefydlu i edrych ar opsiynau posib o gyfuno asedau i’r categori yma. Ategwyd bod Russell Investments yn arwain ar y gwaith o ddadansoddi’r hyn sydd ar gael gyda’r portffolio cyfredol a datblygu a rheoli cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru i’r dyfodol. Nodwyd bod angen trafodaethau unigol gyda pob Cronfa i geisio ffordd ymlaen ym maeseiddo’. Er yn fodlon gyda’r portffolio presennol, amlygwyd bod cyfle i fuddsoddi yn ehangach gydag eiddo ecwiti byd eang. Gyda dyraniad posib o 10% mewn eiddo, nodwyd mai 9% sydd yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gydag awgrym i gynyddu i’r 10% llawn.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

           Rhagwelir sefyllfa eiddo byd eang yn gwaethygu o effeithiau covid 19 gyda llai o alw am eiddo busnes. Er hynny, rheswm da i symud ymlaen gan ddefnyddio arian sydd yn weddill, ond i fod yn bwyllog o ran ‘gwerthu

           Bod angen cymryd camau gofaluspandemig covid 19 wedi cael effaith ar y         ac felly angen ystyried y mathau o fuddsoddiadau yn ofalus cyn trosglwyddo.

 

Mewn ymateb i’w sylwadau, nodwyd bod yr argyfwng wedi prysuro tuedd o’r hyn oedd angen ei weithredu. Ategwyd bod 80% o Gronfa Gwynedd eisoes wedi ei drosglwyddo i Gronfa PPC. Nid oedd bwriad rhuthro i wneud trosglwyddiadau pellach, ond bod cyfleoedd yn codi a bod modd manteisio ar hynny, er engraifft, edrych efallai ar y posibilrwydd o fuddsoddi yn isadeiledd Cymru.

 

Derbyniwyd y wybodaeth