8 CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 88 KB
I ystyried adroddiad
y Rheolwr Buddsoddi
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo'r Cynllun Busnes
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn amlygu
dymuniad Partneriaeth Pensiwn Cymru i
bob Pwyllgor unigol o fewn y Bartneriaeth gymeradwyo eu Cynllun
Busnes. Adroddwyd bod y Cynllun Busnes yn cynnwys manylion
ynghylch blaenoriaethau’r Bartneriaeth ar fodd y bydd yn
cyflawni’r amcanion ar gyfer 2020 / 2023. Mae trefniadau llywodraethu, polisïau a chynlluniau ynghyd a gwybodaeth am eu safbwynt marchnata,
cyllidebau ariannol a chrynodeb o fuddsoddiadau ac amcanion perfformiad y Bartneriaeth hefyd wedi eu cynnwys.
Nodwyd bod cyfarfodydd
yn cael eu
cynnal bob pythefnos gyda Swyddogion, Hymans a’r Awdurdod Lletya
(Caerfyrddin) i rannu diweddariadau, gwybodaeth a chael mewnbwn i ddogfennau.
Ategwyd bod nifer o bolisïau wedi eu
ffurfioli dros y cyfnod clo a bod rhain ar gael ar wefan
y Bartneriaeth. Tynnwyd sylw at y cynllun hyfforddi sydd yn trafod nifer
o bynciau fel bod Aelodau yn meddu ar
wybodaeth a dealltwriaeth briodol – bydd rhain yn sesiynau
buddiol ac hyblyg i Aelodau’r Pwyllgor
a’r Bwrdd Pensiwn ac yn debygol
o gael eu
cynnal dros y We.
Mewn ymateb
i sylw blaenorol
at gostau Partneriaeth Pensiwn Cymru (£70k) amlygwyd bod yr Awdurdod Lletya yn dygymod a gwaith
ychwanegol / sylweddol ac nad oedd
y gyllideb i weld yn ddigonol. Ategodd
y Rheolwr Buddsoddi bod un swyddog ychwanegol
wedi ei benodi
a bod swyddogion presennol yr Awdurdod yn
derbyn cyfrifoldebau ychwanegol. Ategodd y Pennaeth Cyllid bod y swm yn rhesymol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cynllun Busnes