Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/07/2020 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 8)

8 CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 88 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r Cynllun Busnes

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn amlygu dymuniad Partneriaeth Pensiwn Cymru i bob Pwyllgor unigol o fewn y Bartneriaeth gymeradwyo eu Cynllun Busnes. Adroddwyd bod y Cynllun Busnes yn cynnwys manylion ynghylch blaenoriaethau’r Bartneriaeth ar fodd y bydd yn cyflawni’r amcanion ar gyfer 2020 / 2023. Mae trefniadau llywodraethu, polisïau a chynlluniau ynghyd a gwybodaeth am eu safbwynt marchnata, cyllidebau ariannol a chrynodeb o fuddsoddiadau ac amcanion perfformiad y Bartneriaeth hefyd wedi eu cynnwys.

 

Nodwyd bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob pythefnos gyda Swyddogion, Hymans a’r Awdurdod Lletya (Caerfyrddin) i rannu diweddariadau, gwybodaeth a chael mewnbwn i  ddogfennau. Ategwyd bod nifer o bolisïau wedi eu ffurfioli dros y cyfnod clo a bod rhain ar gael ar wefan y Bartneriaeth. Tynnwyd sylw at y cynllun hyfforddi sydd yn trafod nifer o bynciau fel bod Aelodau yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth briodolbydd rhain yn sesiynau buddiol ac hyblyg i Aelodau’r Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn ac yn debygol o gael eu cynnal dros y We.

 

Mewn ymateb i sylw blaenorol at gostau Partneriaeth Pensiwn Cymru (£70k) amlygwyd bod yr Awdurdod Lletya yn dygymod a gwaith ychwanegol / sylweddol ac nad oedd y gyllideb i weld yn ddigonol. Ategodd y Rheolwr Buddsoddi bod un swyddog ychwanegol wedi ei benodi a bod swyddogion presennol yr Awdurdod yn derbyn cyfrifoldebau ychwanegol. Ategodd y Pennaeth Cyllid bod y swm yn rhesymol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cynllun Busnes