9 RHEOLAETH TRYSORLYS 2019/20 PDF 350 KB
I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi
Penderfyniad:
Derbyniwyd y wybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi
bod penderfyniad blynyddol
yn cael ei
wneud i ganiatáu
i gronfeydd dros ben y Gronfa Bensiwn gael eu
cyfuno a’u cyd-fuddsoddi a llif arian cyffredinol y Cyngor. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cymharu
gwir berfformiad yn erbyn y strategaeth
ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20 ac yn cyflawni
dyletswydd gyfreithiol y
Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gymryd ystyriaeth
o Gôd CIPFA ag Arweiniad Buddsoddi Llywodraeth Cymru.
Adroddwyd, yn
ystod y flwyddyn ariannol 2019/20 arhosodd gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn
wreiddiol a derbyniwyd
£546,000 o log ar fuddsoddiadau
oedd yn uwch
na’r £406,000 a oedd yn y gyllideb. Ategwyd na
wnaeth unrhyw fanc yr oedd
y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda, fethu
â thalu, a chyrhaeddwyd pob dangosydd darbodus.
Er bod gostyngiad
yng werth y buddsoddiadau ar ddiwedd y flwyddyn 31/03/20 yn amlygu effaith
negyddol o ganlyniad i bandemig covid
19, adroddwyd mai buddsoddiadau tymor canolig oedd dan
sylw ac felly cyfle i adfer / adennill
y golled.
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth