Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/07/2020 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 9)

9 RHEOLAETH TRYSORLYS 2019/20 pdf eicon PDF 350 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi bod penderfyniad  blynyddol yn cael ei wneud i ganiatáu i gronfeydd dros ben y Gronfa Bensiwn gael eu cyfuno a’u cyd-fuddsoddi a llif arian cyffredinol y Cyngor. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cymharu gwir berfformiad yn erbyn y strategaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20 ac yn cyflawni dyletswydd gyfreithiol y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gymryd ystyriaeth o Gôd CIPFA ag Arweiniad Buddsoddi Llywodraeth Cymru.

           

Adroddwyd, yn ystod y flwyddyn ariannol 2019/20 arhosodd gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol a derbyniwyd £546,000 o log ar fuddsoddiadau oedd yn uwch na’r £406,000 a oedd yn y gyllideb. Ategwyd na wnaeth unrhyw fanc yr oedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda, fethu â thalu, a chyrhaeddwyd pob dangosydd darbodus.

 

Er bod gostyngiad yng werth y buddsoddiadau ar ddiwedd y flwyddyn 31/03/20 yn amlygu effaith negyddol o ganlyniad i bandemig covid 19, adroddwyd mai buddsoddiadau tymor canolig oedd dan sylw ac felly cyfle i adfer / adennill y golled.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth