7 DATGANIAD O GYFRIFON CYNGOR GWYNEDD 2019/20 PDF 111 KB
I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn y Datganiad o Gyfrifon Statudol (drafft cyn archwiliad) er gwybodaeth
Cofnod:
Cymerodd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyfle i ddiolch
i holl staff yr Adran Cyllid
am sicrhau bod Datganiad y Cyfrifon y Cyngor wedi eu paratoi erbyn
15fed o Fehefin. Adroddwyd bod Llywodraeth
Cymru ers hynny wedi ymestyn
dyddiad y cyflwyno i fis Tachwedd
gan fod nifer
o Gynghorau wedi cadarnhau nad oedd
modd cwblhau’r dasg erbyn mis
Mehefin. Roedd yn destun balchder
gan yr Aelod
Cabinet, o dan yr holl amgylchiadau, bod y Cyngor wedi llwyddo i
gwblhau’r datganiad trwy ymroddiad staff yr adran o fewn cyfnod heriol iawn. Ategodd ers mis Mawrth mai blaenoriaeth y Cyngor
yw amddiffyn pobl fregus ein cymunedau.
Ategodd y Pennaeth Cyllid bod y datganiad wedi ei gwblhau ar
ffurf statudol ac fe nododd bod y ffigyrau pensiwn yn ystumio’r ffigyrau - cyfeiriwyd atynt fel ffigyrau papur ac i ddeall
y sefyllfa ychydig yn well cyfeiriodd at y wybodaeth am y symudiadau yn y reserfau (tud 79). Teimlwyd yr angen i
gyflwyno’r datganiad gan y byddant wedi
dyddio erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor (14/09/20). Gan nad oes modd
i Deloittes gwblhau eu harchwiliad
hwy o’r cyfrifon
tan fis Medi, ystyriwyd y gall y
Pwyllgor, yn y cyfarfod hwnnw, ganolbwyntio ar archwiliad yr archwilwyr
allanol. Ategodd yr Uwch Reolwr
Cyllid bod chwe set o gyfrifon wedi eu
cwblhau ac yng nghyd-destun y datganiad, nodwyd ei fod
yn ddatganiad cymhleth a hirfaith yn dilyn ffurf
safonol CIPFA. Tynnwyd sylw at yr adroddiad
naratif ac at y prif faterion yn y datganiad.
PENDERFYNWYD derbyn y Datganiad o Gyfrifon Statudol (drafft cyn archwiliad)
er gwybodaeth