9 RHEOLAETH TRYSORLYS 2019/20 PDF 307 KB
I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau
rheolaeth trysorlys y Cyngor yn ystod 2019/20, yn erbyn y strategaeth a
sefydlwyd am y flwyddyn ariannol honno. Nodwyd bod gweithgaredd benthyca’r
Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol, a derbyniwyd £546,000 o log
ar fuddsoddiadau a oedd yn uwch na’r £406,000 yn y gyllideb. Cadarnhawyd nad
oedd unrhyw fanc roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw wedi methu â
thalu.
Tynnwyd sylw at fanylder y gweithgareddau benthyca gan amlygu bod y benthyciadau tymor hir wedi aros
yn gyson ond y gwahaniaeth mwyaf yw’r benthyciadau
tymor byr sydd wedi ei
gymryd allan.
Nodwyd bydd yn arferol gofyn
am lif arian tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol ond gyda goblygiadau
pandemig covid 19 ar
ansicrwydd sut i dalu grantiau
i fusnesau yn ddiogel, penderfynwyd
cymryd benthyciadau tymor byr er
mwyn talu’r grantiau. Adroddwyd bod £15m eisoes wedi ei
dalu yn ôl
gyda £4m i’w dalu eto.
Adroddwyd yng nghyd-destun buddsoddiadau bod hwn wedi bod yn gyfnod
distaw a’r opsiynau buddsoddi yn rhoi dychweliadau
eithaf isel. Nodwyd bod gwerth y £10m a fuddsoddwyd yn y gronfa eiddo yn
Chwefror 2019 wedi lleihau yn sylweddol
erbyn diwedd Mawrth 2020 a hynny oherwydd effaith niweidiol pandemig covid 19. Ategwyd bod y gwerth yn isel
ond bod adferiad o ryw 20% yng ngwerth
marchnadoedd wedi ei gael ers
hynny. Y bwriad yw parhau gyda’r
buddsoddiadau am y tymor canolig / hir a chynnal trafodaethau cyson gydag Arling
Close i gadw llygad ar y portffolio.
Amlygwyd bod cyfradd dychwelyd eiddo yn agos i
4% ac yn trosi incwm
refeniw o ryw £400k y flwyddyn ac felly yn arf da iawn i’w
gael mewn portffolio.
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.