14 CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL DRAFFT 2020/21 PDF 421 KB
I ystyried
adroddiad y Rheolwr Archwilio
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Cynllun Archwilio Diwygiedig ar gyfer cyfnod 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021
Cofnod:
Cyflwynwyd cynllun drafft
diwygiedig o waith Archwilio Mewnol am y flwyddyn ariannol 2020/21 er
sylwadaeth a chymeradwyaeth gan y Pwyllgor. Amlygwyd, yn unol ag arfer gorau a Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, mae'r
cynllun Archwilio Mewnol yn destun adolygiad parhaus i sicrhau ei fod yn
parhau’n gyfredol ac yn adlewyrchu newidiadau yn y busnes.
Eglurwyd bod y cynllun wedi ei ddiweddaru yn sgîl pandemig Covid-19 a’r ffaith
nad oedd modd i Archwilio Mewnol gynnal gwaith yn chwarter cyntaf y flwyddyn.
Adroddwyd bod swyddogion Archwilio Mewnol
wedi cael eu hadleoli i gynorthwyo a chefnogi’r Cyngor drwy wirio a phrosesu
Grantiau Llywodraeth Cymru i Fusnesau a weinyddir gan y Gwasanaeth Refeniw.
Ategwyd bod gwariant rhagamcanol y Grantiau hyn yn
£63m, yr ail gyngor uchaf yng Nghymru o ran gwariant a thrafodion – y gwaith
wedi ei adlewyrchu yn y cynllun diwygiedig.
Tynnwyd sylw
at un o brif flaenoriaethau chwarter 1, fel yn y ddwy flynedd
ariannol flaenorol, yw darparu gwasanaeth
Archwilio Mewnol i oddeutu 70 o gynghorau cymuned, tref a dinas. Ar gyfer
cyflawni hyn ac i gynorthwyo’r cynghorau i gwrdd
â’u hamserlen statudol o ran cyflwyno eu cyfrifon erbyn
30 Mehefin 2020, derbyniwyd
dogfennaeth drwy e-bost ble’n bosibl,
a chynhaliwyd cyfarfodydd drwy ddefnyddio Zoom neu Microsoft Teams, yn ogystal â sgyrsiau dros y ffôn. Bu i’r Gwasanaeth dderbyn adborth positif gan y Clercod/Swyddogion
Ariannol Cyfrifol ar y trawsffurfiad esmwyth o gynnal yr archwiliadau hyn.
Adroddwyd y byddai
cynllun diwygiedig
2020/2021 Archwilio Mewnol yn
rhoi ystyriaeth briodol bob amser i’r posibilrwydd y gall twyll neu lygredigaeth
ddigwydd. Eglurwyd y byddant yn manteisio ar y Fenter Twyll Cenedlaethol
ac yn cynnal gwaith Atal Twyll Rhagweithiol gydag Archwilio Cymru hefyd wedi penderfynu
ymestyn y Fenter i dargedu'r risgiau
twyll sy'n gysylltiedig â grantiau neu daliadau Covid-19 a wneir gan awdurdodau
lleol. Ategwyd na fyddai’r
swyddogion Archwilio sydd wedi bod ynghlwm
â’r gwaith o brosesu taliadau grant yn cynnal y gwaith
hwn i sicrhau
annibyniaeth a gwahaniad dyletswyddau priodol. Bydd y Gwasanaeth hefyd yn parhau i
roi sylw i grantiau penodol,
yn enwedig lle mae amodau’r grant yn disgwyl adolygiad gan Archwilio Mewnol.
Tynnwyd sylw at y prif newidiadau yn y
cynllun diwygiedig a nodwyd y byddai’r cynllun yn rhoi hyblygrwydd i
alluogi’r Gwasanaeth i gefnogi’r Cyngor gydag unrhyw faterion a ddaw i’r amlwg
ac i weithredu’n brydlon i unrhyw risgiau a ddeillir yn sgil y materion hynny.
Diolchwyd y Pennaeth Cyllid i’r staff am eu parodrwydd i drosglwyddo i
gynorthwyo gyda’r lefel uchel o daliadau grant.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Archwilio Diwygiedig ar gyfer cyfnod 1
Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021