13 ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL 2019/2020 PDF 579 KB
I ystyried adroddiad
y Pennaeth Archwilio Mewnol
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad blynyddol yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2019/2020
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn mynegi barn Archwilio Mewnol ar yr amgylchedd rheolaethol
gyffredinol o fewn yr Awdurdod yn
ystod 2019/20. Adroddwyd, ar sail y gwaith a gwblhawyd gan Archwilio
Mewnol, bod Cyngor Gwynedd fframwaith cadarn o reolaeth fewnol.
Adroddwyd bod 49 darn o waith wedi eu
cynnwys yng nghynllun archwilio addasedig terfynol 2019/20. Nodwyd bod 45 o’r aseiniadau wedi eu cwblhau erbyn
31 Mawrth 2020, a oedd yn cynrychioli
91.84% o’r cynllun. O’r adroddiadau perthnasol a dderbyniodd lefel sicrwydd, derbyniodd 77.77% ohonynt lefel sicrwydd ‘digonol’ neu ‘uchel’.
Adroddwyd yn rheolaidd i’r Pwyllgor
Archwilio a Llywodraethu ac
yng nghyd-destun gwaith dilyniant, allan o’r 88 gweithrediad
cytunedig wnaethpwyd yn 2018/19 roedd gweithrediad derbyniol ar 76.14% ohonynt erbyn Mawrth
31 2020. Ategwyd bod cynnydd
wedi ei wneud
ar 12% ac ni
dderbyniwyd ymateb ar gyfer 11.36% - bydd y gwasanaeth yn ail ymweld â’r
rhain yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Nodwyd bod gostyngiad yn nifer
y dyddiau cynhyrchiol oedd ar gael
i’w darparu ar gyfer archwiliadau
Cyngor Gwynedd o 913 diwrnod rhwng
1af Ebrill 2018 a 31ain Mawrth
2019 i 681 diwrnod am yr un cyfnod yn
2019/20. Eglurwyd bod hy o ganlyniad i absenoldeb
mamolaeth, cynorthwyo Awdurdod Parc Cenedlaethol
Eryri yn eu trefniadau diwedd
blwyddyn ariannol a darparu gwasanaeth archwilio Byw’n Iach Cyf. Ers
Ebrill 2020 adroddwyd bod 7
aelod llawn amser i’r Tîm
Archwilio Mewnol ac un Archwiliwr Dros Dro i gyflenwi cyfnod mamolaeth ac absenoldeb uwch Archwilwyr i fynychu Coleg
ar gyfer ennill cymhwyster proffesiynol.
Mewn ymateb
i gwestiwn gan aelod parthed
y defnydd o gynllun prentisiaeth fel modd o sicrhau parhad gwasanaeth a pharhad mewn safon,
nododd y Rheolwr Archwilio
ei bod yn annog unigolion i ennill cymwysterau
proffesiynol a manteisio ar gyfleoedd o fewn y maes.
Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â chytundeb i Cyngor Gwynedd roi cymorth ariannol i gwmni Byw’n
Iach er nad
oedd trosolwg o’r sefyllfa, adroddodd
y Pennaeth Cyllid bod amod i Wynedd
ddigolledu incwm Byw’n Iach.
Nodwyd gwerthfawrogiad o waith y Rheolwr
Archwilio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad blynyddol yn unol â gofynion Safonau
Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2019/2020