10 CYNLLUN ARCHWILIO ALLANOL 2020 CYNGOR GWYNEDD PDF 355 KB
I ystyried yr adroddiad
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn adroddiad Archwilio Cymru
Cofnod:
Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Alan Hughes (Archwilio Cymru) ac Ian Howse (Deloitte)
Nodwyd y byddai’r cyfrifon ar gael i’r cyhoedd hyd at fis Medi gyda’r
Archwilwyr Allanol yn cyflwyno eu harchwiliad terfynol o’r cyfrifon wedi hynny.
Tynnwyd sylw at y risgiau arwyddocaol sydd wedi eu hadnabod
ar gyfer archwiliad y Cyngor oedd yn cynnwys gwrthwneud
rheolaethau gan Reolwyr (sydd yn
risg gyffredin i bob Awdurdod), effaith argyfwng cenedlaethol covid 19, cyflawnrwydd gwariant a gronnwyd, incwm a gwariant grant GwE, archwilio’r ddarpariaeth a wnaed mewn perthynas
â dyfarniad achos McCloud (Pensiynau) a gwaith dechreuol i adolygu
parodrwydd ar gyfer cyflwyno prydlesi.
Yng nghyd-destun Archwilio Perfformiad ar gwaith am y flwyddyn i ddod, nodwyd
bod covid wedi taro rhywfaint o gynnwys y cynllun. Gwnaed penderfyniad i ddiddymu archwiliad Deddf Llesiant a chanolbwyntio ar ddilyn trefn adfer
y Cyngor. Amlygwyd bod gweddill
y cynllun yn aros run fath ar
Archwilwyr yn parhau i gasglu
sicrwydd ac asesu risg, cyflawni gwaith ar gynaliadwyedd
ariannol, cwblhau adolygiad rhanbarthol o gomisiynu gofal preswyl a nyrsio (gwaith sgopio a thrafodaethau i ddechrau
ym mis Medi). Tynnwyd sylw at y bwriad o wneud gwaith lleol ar
‘ein ffordd o weithio’, ond nodwyd
y bydd angen cynnal trafodaethau gyda swyddogion i ganfod os
yw’r testun yn parhau yn
briodol.
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Archwilio Cymru