ADOLYGIAD GWAELODLIN PROSIECTAU
Adroddiad i’w
gylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig.
Penderfyniad:
(a) Nodi cynnwys yr adroddiad
adolygiad gwaelodlin a’r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod, a pharhau i
ddatblygu prosiectau er mwyn cynorthwyo i sicrhau’r Cytundeb Twf Terfynol ar y
cyfle cyntaf bosib’.
(b) Cadarnhau ailenwi’r ‘Rhaglen Diwydiannau’r Tir a
Thwristiaeth’ yn Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth.
(c) Cadarnhau ailenwi’r ‘Rhaglen Gweithgynhyrchu Uwch’ yn
Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr
Gweithrediadau.
PENDERFYNWYD
(a) Nodi cynnwys yr
adroddiad adolygiad gwaelodlin a’r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod, a pharhau i ddatblygu
prosiectau er mwyn cynorthwyo i sicrhau’r Cytundeb
Twf Terfynol ar y cyfle cyntaf
bosib’.
(b) Cadarnhau ailenwi’r ‘Rhaglen Diwydiannau’r Tir a Thwristiaeth’ yn Rhaglen Bwyd-Amaeth
a Thwristiaeth.
(c) Cadarnhau ailenwi’r ‘Rhaglen Gweithgynhyrchu Uwch’ yn Rhaglen
Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Diweddaru Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar sefyllfa
pob rhaglen a phrosiect fel rhan
o’r broses o gyrraedd Cytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun
Twf Gogledd Cymru.
Derbyn cymeradwyaeth y Bwrdd i ailenwi dwy
o’r rhaglenni fel eu bod yn
adlewyrchu eu cylch gorchwyl perthnasol yn fwy
cywir.
TRAFODAETH
Trafodwyd yr adroddiad.