Adroddiad gan
Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
(a) Mabwysiadu’r Fframwaith Rheoli
Risg sydd ynghlwm i’r adroddiad ac fel yr amlinellir yn Atodiad 1, gan ofyn i’r
Swyddfa Rhaglen addasu y fformat yn unol â’r pwyntiau a nodwyd yn y drafodaeth,
a datblygu Strategaeth Rheoli Risg yn unol â’r egwyddorion yn y fframwaith fel
rhan o’r pecyn terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.
(b) Nodi y bydd adroddiad yn
adolygu cynnwys y gofrestr risg yn unol â’r fframwaith newydd yn cael ei
gyflwyno i gyfarfod nesaf y Bwrdd.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr
Gweithrediadau.
PENDERFYNWYD
(a) Mabwysiadu’r Fframwaith Rheoli Risg sydd
ynghlwm i’r adroddiad ac fel yr amlinellir yn
Atodiad 1, gan ofyn i’r Swyddfa
Rhaglen addasu y fformat yn unol
â’r pwyntiau a nodwyd yn y drafodaeth
a datblygu Strategaeth Rheoli Risg yn
unol â’r egwyddorion yn y fframwaith fel rhan o’r pecyn
terfynol ar gyfer Cynllun Twf
Gogledd Cymru.
(b) Nodi y bydd adroddiad
yn adolygu cynnwys y gofrestr risg yn unol
â’r fframwaith newydd yn cael
ei gyflwyno i gyfarfod nesaf
y Bwrdd.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae angen i’r Swyddfa
Rhaglen osod trefniadau rheoli risg effeithiol er mwyn sicrhau
y gellir cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru yn llwyddiannus.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad oedd
yn diweddaru Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar drefniadau
rheoli risg er mwyn cyflawni
Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Eglurwyd bod hwn yn adroddiad
ar y Fframwaith Rheoli, ac nid ar y risgiau eu
hunain, ac y byddai’r risgiau yn cael
eu trafod yn y cyfarfod nesaf. Nodwyd mai’r ddau risg
mwyaf oedd capasiti a chefnogaeth y sector preifat, a hynny oherwydd effeithiau Cofid-19.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd bod y Fframwaith Rheoli Risg i’w
ganmol, ond awgrymwyd ychwanegu’r canlynol at y templed:-
·
Colofn tueddiad risg (gwell, gwaeth neu
statig);
·
Colofn yn nodi pa mor sydyn y bydd risgiau na
liniarwyd yn cael adrawiad (yn syth, yn y tymor byr
neu’r tymor canolig).
·
Ail golofn goleuadau traffig yn dangos lefel y
risg yn sgil gweithredu camau i wella’r sefyllfa.
Mewn ymateb, nodwyd y bwriedid gweithio ar dempled diwygiedig
fyddai’n cynnwys sgorau a thueddiadau risgiau a liniarwyd, gan hefyd ymgorffori’r
awgrymiadau uchod.
Nodwyd nad oedd
Atodiad 2 yn gwneud unrhyw gyfeiriad
at newid cyfeiriad y Llywodraeth. Mewn ymateb, nodwyd
mai’r fframwaith yn unig oedd
dan ystyriaeth yn y cyfarfod hwn,
ac y byddai’r gofrestr risg yn cael
ei thrafod yn y cyfarfod nesaf.
Cytunwyd â’r fframwaith gyda’r sylwadau a nodwyd, gan dderbyn
y bydd yna adroddiad ar y sefyllfa risg i’r
cyfarfod nesaf.