Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 31/07/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 6)

6 CYTUNDEB LLYWODRAETHU 2 pdf eicon PDF 480 KB

Adroddiad gan Iwan G. D. Evans, Swyddog Monitro – Awdurdod Lletya.

Penderfyniad:

Cymeradwyo yr amserlen.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan G.D.Evans, Swyddog MonitroAwdurdod Lletya.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo yr amserlen.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae cytundeb y bartneriaeth yn allweddol i gytuno ar Gytundeb Llywodraethu 2 cynhwysfawr (“GA2”).  Adroddwyd i’r cyfarfod blaenorol ar y materion yma.  Mae’r adroddiad hwn yn diweddaru'r amserlen ar gyfer y gwaith.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn cyflwyno Cynllun GA2 wedi’i ddiweddaru i’r Bwrdd ac yn adrodd ar ddeilliannau’r Gweithdy Llywodraethu.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol, yr amserlen, goblygiadau cyfreithiol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nodwyd y bwriedid adrodd ar fodelau arfaethedig a dogfennaeth derfynol i bwyllgorau craffu yn ystod ail hanner mis Hydref; i’r Cabinet yn ystod ail hanner mis Tachwedd ac i gyfarfodydd Cyngor o fewn hanner cyntaf Rhagfyr. 

 

Eglurwyd fod gwaith penodol i’w gwblhau o amgylch sefydlu ymrwymiadau ariannol y partneriaid ar gyfer y cytundeb GA2 a’r Cynllun Twf yn benodol.  Roedd hyn yn allweddol o ran symud ymlaen i gael argymhellion i’r cynghorau eu mabwysiadu yn unol â’r amserlen.  Bwriedid cynnal gweithdy swyddogion ym mis Awst, fyddai’n cynnwys swyddogion y Grŵp Gweithredol, ynghyd â Chyfarwyddwyr Cyllid y partneriaid o’r cynghorau a’r colegau i ddechrau cyrraedd safbwynt ar broffilio gwariant y prosiectau a’r fframwaith ariannol yn GA2.  Yn dilyn hynny, byddai angen cynnal y gweithdy a nodwyd yn y rhaglen waith i gynrychiolwyr ac aelodau’r Bwrdd Uchelgais i drafod canlyniad y gweithdy swyddogion ac i ddod i safbwynt ar y ffordd ymlaen, ond hynny ym mis Medi.  Pwysleisiwyd bod yna falans i’w daro rhwng yr awch i symud yn gynnar gyda’r prosiectau, ac effaith cost hynny o ran llif arian.  Nodwyd y comisiynwyd gwaith arbenigol dros y pythefnos nesaf fyddai’n dod â gwybodaeth gerbron y gweithdy swyddogion, gyda ffrwyth hynny’n cael ei gyflwyno i’r gweithdy aelodau yn ei dro.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod yr Arweinyddion yn rhan o’r gweithdai i’w cynnal gydag aelodau’r cynghorau i gefnogi’r Cynllun.