8 CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD 2019/20 PDF 210 KB
I ystyried yr adroddiad
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo’r
wybodaeth
- Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2019 / 20
- Ffurflen Datganiad cyfrifon a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 (yn amodol ar archwiliad)
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid a eglurwyd yn
unol â’r gofynion statudol o dan Ddeddf Harbyrau 1964
mae’n rhaid i Wynedd, fel awdurdod harbyrau, ddarparu
datganiad cyfrifon blynyddol sy’n ymwneud â gweithgareddau harbyrau
Abermaw, Aberdyfi, Pwllheli a Porthmadog. Gyda throsiant yr harbyrau yn is na £2.5m,ystyriwyd
i fod yn gorff llywodraeth leol llai o faint ac felly mae cwblhau ffurflen
datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio Cymru yn cwrdd â’r gofynion
statudol.
Cyfeiriwyd at y cyfrif incwm a gwawriant ac amlygwyd, er bod yr incwm
yn llai na’r
target roedd tanwariant
o £10.5k (staffio cynnal a chadw). Tynnwyd sylw at ffurflen safonol yr archwilwyr
allanol a nodwyd bod y cyfrifon eisoes wedi bod yn destun
archwiliad mewnol ac ers canol mis
Mai yn destun archwiliad allanol gan Deloitte. Ategwyd mai dim ond os
bydd angen gweithredu newidiadau yn dilyn archwiliad
y bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno
i gyfarfod nesaf o’r Pwyllgor
ar Fedi 14eg 2020.
PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth
- Cyfrif Incwm a Gwariant
Refeniw 2019 / 20
- Ffurflen Datganiad
cyfrifon a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 (yn amodol ar archwiliad)
- Cadeirydd y Pwyllgor i lofnodi’r
datganiadau (yn electroneg)