6 CYFRIFON TERFYNOL 2019/20 - Alldro Refeniw PDF 186 KB
I ystyried yr
adroddiad
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
- derbyn
y sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r
Cyngor a’i adrannau
- derbyn penderfyniadau'r Cabinet (16/6/20)
Cofnod:
Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyflwynwyd yr adroddiad i’r
Cabinet 16 Mehefin 2020 a bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol. Pwysleisiodd bod yr Aelodau Cabinet i gyd yn ymwybodol
o’u cyfrifoldeb i gadw at y gyllideb.
Nododd bod sefyllfa gofal oedolion a gorwariant Adran Plant a Theuluoedd yn amlygu
pryder.
Gosodwyd y cyd-destun ac ymhelaethwyd ar gynnwys yr
adroddiad gan yr Uwch Reolwr
Cyllid. Cyfeiriwyd at grynhoad o’r sefyllfa
fesul adran oedd yn amlygu’r
symiau i’w cario ymlaen ar
ddiwedd y flwyddyn. Amlygwyd bod y Gwasanaeth Plant aTheuluoedd
yn gorwario £3.3m ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol gyda gorwariant o £500k. Tynnwyd sylw at y manylion pellach (atodiad 2) a’r pwysau amlwg,
sylweddol sydd yn wynebu y maes
gofal a maes gwastraff i geisio
lleihau’r ardrawiad ar drigolion Gwynedd drwy beidio torri
gwasanethau - gwelir tystioaleth bod trafferthion cyflawni arbedion.
Amlygwyd bod yr Adran Oedolion
wedi profi gwelliant yn y sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gan dderbyn ac ailgyfeirio grantiau hwyr a defnydd cyllid un tro
o £420k. Heb y cyfraniadau ychwanegol hyn buasai’r adran wedi gorwario £1.5m, fodd bynnag wedi
derbyn bidiau ychwanegol gwerth £1.8m ar gyfer 2020/21.
Adroddwyd bod cynnydd pellach yn y tueddiad gorwariant
ar y gwasanaethau gweithredol, lleoliadau ac ôl 16 yn yr
Adran Plant a Theuluoedd ac felly adroddwyd ar orwariant
o £3.4m. Ategwyd
nad oedd
y sefyllfa yn unigryw i Wynedd
ond yn hytrach
yn ddarlun cyfarwydd ar draws yr holl awdurdodau.
Er hynny, y sefyllfa yn parhau
yn un pryderus ac er bod £2m ychwanegol wedi ei ddyrannu
i gyllideb 2020/21 yr Adran i
gwrdd ar pwysau cynyddol, bod methiant i wireddu arbedion yn fater sydd
angen ei ddatrys - bwriad cyfarch hyn mewn adroddiad dilynol i’r Cabinet.
Sylwadau pellach:
·
Priffyrdd a Bwrrdeistrefol yn
dangos lleihad ond maes gwastraff
yn broblemus eleni
·
Balansau ysgolion wedi cynyddu o £4m i £4.3m
·
Addysg a YGC wedi perfformio
yn well na’r hyn a ragwelwyd yn ystod y flwyddyn
·
Tanwariant yn yr Adran Amgylechedd a thanwariant un tro ar nifer
o benawdau Corfforaethol
·
Yn dilyn adolygiad digonolrwydd o’r cronfeydd a darpariaethau penodol y Cyngor wrth gau’r cyfrifon a llwyddwyd i gynaeafu
£825,000 o adnoddau.
Mewn ymateb i sylw
bod nifer o’r adrannau yn cynnwys
trosiant staff fel problem,
nodwyd yn gyffredinol, os yn anwybyddu gwaraint
cyfalaf, bod ¾
o’r gwaraint yn waraint staff ac felly yn anochel y byddai
materion staff yn codi. Ategwyd, bod bidiau mewn rhai
adrannau wedi ei cymeradwyo i
helpu’r sefyllfa yma.
PENDERFYNWYD
- derbyn
y sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i
adrannau
- derbyn penderfyniadau'r Cabinet
(16/6/20)