7 ADRODDIAD COVID-19 - ADFER PDF 248 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Dafydd Meurig
Penderfyniad:
Derbyniwyd y diweddariad ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i sefydlogi ac ail adeiladu yn sgil yr argyfwng Covid-19 a chytunwyd i ofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roddi sylw i’r materion pellach oedd wedi codi yn y gweithdy diweddar ar y mater.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dilwyn Williams
PENDERFYNIAD
Derbyn y diweddariad ar y gwaith sy’n mynd
ymlaen i sefydlogi ac ail adeiladu yn sgil yr argyfwng Covid-19 a chytunwyd i
ofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roddi sylw i’r materion pellach oedd
wedi codi yn y gweithdy diweddar ar y mater.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai diweddariad yw hwn am yr hyn sydd wedi digwydd yn sgil
comisiwn y Cabinet i’r byrddau ystyried
beth sydd angen ei wneud wrth symud o ymateb i’r sefyllfa i sefyllfa fwy
sefydlog. Nodwyd y meysydd sydd wedi eu hamlygu gan y byrddau fe rhai sydd angen
sylw.
Ategwyd fod
gweithdy wedi ei gynnal gyda’r aelodau Cabinet a Phenaethiaid Adran er mwyn
trafod meysydd y bydd angen sylw sydd ddim o bosib yn disgyn i mewn i faes
llafur y byrddau. Amlinellwyd y meysydd ychwanegol a nodwyd fel yr isod:
· Diweithdra
· Cynaliadwyedd Trafnidiaeth Gyhoeddus
· Iechyd Meddwl a Lles ehangach
· Argaeledd tai i bobl leol
· Gwydnwch Cymunedol a chynnal yr ymdeimlad o
wirfoddoli
· Perthynas waith gyda chyrff eraill
· Iechyd Cyhoeddus
· Cynaliadwyedd y sector gofal
· Cynaliadwyedd adnoddau cymunedol i’r sector
ddiwylliannol
· Yr Iaith mewn Cyfarfodydd rhithio
· Cadwyn cyflenwad bwyd
Nodwyd y bydd
gofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roi sylw i’r materion pellach sydd
wedi codi ac adrodd yn ôl ar y gwaith o sefydlogi ac ail adeiladu i’r Cabinet.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth
¾ Nodwyd pwysigrwydd fod diweithdra yn cael ei ychwanegu fel maes i’w drafod gan nad yw’r don wedi
taro yma eto.
¾ Holwyd ble y bydd yr eitemau ychwanegol yn cael eu trafod. Os nad yw’r
materion yn dod o dan faes llafur y byrddau bydd y Prif Weithredwr yn mynd at
yr adran benodol i ystyried beth fydd angen ei wneud.
¾ Diolchwyd am yr arweiniad a’r gwaith yn edrych ar y meysydd yma.
Awdur: Dilwyn Williams