Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Cabinet (eitem 7)

7 ADRODDIAD COVID-19 - ADFER pdf eicon PDF 248 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Dafydd Meurig

Penderfyniad:

Derbyniwyd y diweddariad ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i sefydlogi ac ail adeiladu yn sgil yr argyfwng Covid-19 a chytunwyd i ofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roddi sylw i’r materion pellach oedd wedi codi yn y gweithdy diweddar ar y mater.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

 

Derbyn y diweddariad ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i sefydlogi ac ail adeiladu yn sgil yr argyfwng Covid-19 a chytunwyd i ofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roddi sylw i’r materion pellach oedd wedi codi yn y gweithdy diweddar ar y mater.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai diweddariad yw hwn am yr hyn sydd wedi digwydd yn sgil comisiwn  y Cabinet i’r byrddau ystyried beth sydd angen ei wneud wrth symud o ymateb i’r sefyllfa i sefyllfa fwy sefydlog. Nodwyd y meysydd sydd wedi eu hamlygu gan y byrddau fe rhai sydd angen sylw.

 

Ategwyd fod gweithdy wedi ei gynnal gyda’r aelodau Cabinet a Phenaethiaid Adran er mwyn trafod meysydd y bydd angen sylw sydd ddim o bosib yn disgyn i mewn i faes llafur y byrddau. Amlinellwyd y meysydd ychwanegol a nodwyd fel yr isod:

·    Diweithdra

·    Cynaliadwyedd Trafnidiaeth Gyhoeddus

·    Iechyd Meddwl a Lles ehangach

·    Argaeledd tai i bobl leol

·    Gwydnwch Cymunedol a chynnal yr ymdeimlad o wirfoddoli

·    Perthynas waith gyda chyrff eraill

·    Iechyd Cyhoeddus

·    Cynaliadwyedd y sector gofal

·    Cynaliadwyedd adnoddau cymunedol i’r sector ddiwylliannol

·    Yr Iaith mewn Cyfarfodydd rhithio

·    Cadwyn cyflenwad bwyd

 

Nodwyd y bydd gofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roi sylw i’r materion pellach sydd wedi codi ac adrodd yn ôl ar y gwaith o sefydlogi ac ail adeiladu i’r Cabinet.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd pwysigrwydd fod diweithdra yn cael ei ychwanegu  fel maes i’w drafod gan nad yw’r don wedi taro yma eto.

¾  Holwyd ble y bydd yr eitemau ychwanegol yn cael eu trafod. Os nad yw’r materion yn dod o dan faes llafur y byrddau bydd y Prif Weithredwr yn mynd at yr adran benodol i ystyried beth fydd angen ei wneud.

¾  Diolchwyd am yr arweiniad a’r gwaith yn edrych ar y meysydd yma.

 

 

Awdur: Dilwyn Williams