5 CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2020 PDF 207 KB
Cyflwyno
adroddiad gan Uwch Reolwr Cyllid, Cyngor Gwynedd
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd
a chymeradwywyd y canlynol:-
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Ffion Madog Evans (Uwch Rheolwr Cyllid) a oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan
Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd yn benodol am
gyfrifo ac archwilio cyfrifon Pwyllgorau ar y Cyd.
Eglurwyd
bod y Ffurflen Flynyddol Swyddogol ar gyfer 2019/2020 wedi'i chwblhau a'i
hardystio'n briodol gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol. Yn dilyn ardystiad roedd
yn ofynnol i'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd gymeradwyo a chyhoeddi'r
Ffurflen Flynyddol erbyn 15 Mehefin 2020. Er iddo gael ei gyhoeddi ar gwefan
Cyngor Gwynedd oherwydd argyfwng Covid-19, nid oedd yn bosibl i'r corff
gymeradwyo'r ffurflen flynyddol cyn 15 Mehefin 2020.
Eglurwyd
bod y cyfrifon a'r ffurflen wedi bod yn destun archwiliad gan Deloitte ac ni chododd unrhyw faterion fel rhan o'r
Archwiliad.
Esboniwyd,
oherwydd y sefyllfa bresennol gyda'r pandemig, y
byddai'n angenrheidiol i'r Cadeirydd lofnodi'r Cyfrifon gan ddefnyddio llofnod
electronig.
Materion a godwyd:
·
Cwestiynwyd beth oedd y Costau Staffio Eraill
yn atodiad A.
Ymateb:
·
Eglurwyd
mai costau yn ymwneud ac aelod
o staff sydd bellach wedi gadael y gwasanaeth
ydi’r costau staffio eraill ac mai costau ar
gyfer 19/20 yn unig ydi'r rhain.
Penderfyniad
Derbyniwyd a chymeradwywyd y
‘Cyfrif Incwm a Gwariant refeniw 2018/2019’ ynghyd a’r ‘Ffurflen Flynyddol’ ar
gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020. Cytunwyd y Cadeirydd i
lofnodi’r cyfrifon yn electroneg, gan gadarnhau ei bod wedi cael ei gymeradwyo
gan y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y cyd.