6 CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL - CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID PDF 146 KB
Cyflwyno adroddiad gan Heledd Jones (Arweinydd Tîm) Gwasanaeth Polisi
Cynllunio ar y Cyd
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
y diwygiadau oedd yn cael ei gynnig i ran 4.6 a pharagraff 6.2.1 o’r Canllaw a
phenderfynwyd cymeradwyo rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer cyfnod
ymgynghori cyhoeddus sydd yn benodol berthnasol i’r rhannau hynny.
Cofnod:
Cafwyd cyflwyniad byr gan Heledd Jones yn esbonio taith
y CCA hyd yma. Esboniwyd y rhesymau dros y newidiadau i’r CCA a’r man ddiwygiadau a chynigir i’r CCA. Esboniwyd fod y newidiadau yn ymwneud a diffinio'r
hyn a ystyrir
gan ormodedd o lety gwyliau’r rhesymeg dros y newidiadau hynny. Amlygwyd mai'r newidiadau sydd wedi ei
dangos mewn ysgrifen fras ac wedi ei danlinellu
yn rhan 4.6 a phara 6.2.1 fydd yn destun ymgynghoriad
cyhoeddus.
Materion a godwyd:
·
Gofynnwyd
a fydd unrhyw ddatblygiad newydd (lle yn briodol)
yn cael ei
chlymu i Rif y Daliad
·
Angen edrych ar geiriad para 4.6.2 yn y fersiwn Saesneg
y gair ‘idle’ ddim yn addas yn
y cyd-destun yma
·
Gofynnwyd
am esboniad o beth mae ‘cyfiawnhad cadarn’ ym mharagraff 3.1.3 yn ei olygu
·
Gofynnwyd
am esboniad beth mae ‘adeiladau diogelwch’ yn ei olygu ym mharagraff 4.4.1
Ymateb:
·
Eglurwyd bod y CCA yn rhoi arweinid
ar hyn yn
para 4.6.6, mae unrhyw ddatblygiad newydd yn cael
ei rheoli gan amod lle
yn briodol.
·
Cytunwyd nag oedd y gair yma
yn addas a chytunwyd y bydd yn cael ei
newid ag i brawf ddarllen y diwygiadau cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus
·
Esboniwyd fod y
paragraff yma ddim yn destun yr ymgynghoriad cyhoeddus
·
Esboniwyd fod yr eirfa
yma yn dod o Bolisi Cynllunio Cymru.
Penderfyniad
Cymeradwywyd y
diwygiadau oedd yn cael ei gynnig i ran 4.6 a pharagraff 6.2.1 o’r Canllaw a
phenderfynwyd cymeradwyo rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer cyfnod
ymgynghori cyhoeddus sydd yn benodol berthnasol i’r rhannau hynny.